Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gymdeithas y Cymmrodorion ac fel golygydd cyhoeddiadau'r gymdeithas honno. Bu hefyd yn ysgrifennydd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol a bu beirniadu arno lawer tro am ei fod, meddid, yn cadw trysorau o gyfansoddiadau eisteddfodol heb eu cyhoeddi. "Diolch i mi ddylen nhw," meddai wrthyf un tro, "am gadw cymaint o ysbwriel o'r golwg!" Y mae'n debyg fod tuedd i fod yn dra-awdurdodol ynddo erioed; yr oedd golwg felly arno, gyda'r gwallt du, crych, a drodd yn frith at y diwedd, y llygaid craff a'r genau penderfynol. Ac fel yr heneiddiodd aeth y duedd hon yn gryfach, gryfach. Anodd oedd cael dim o'i law ac nid oedd yn fodlon gwneud dim ond yn ôl ei ffordd ei hun. Byddai yn ysgrifennu'r cyfeiriad a'i law ei hun pan byddai yn anfon rhifynnau'r Cymmrodor a'r Trafodion i'r aelodau, a bûm yn ymliw ag ef fwy nag unwaith ynghylch hynny. Ond ysgwyd ei ben yn ystyfnig a wnai ef. "Na," fyddai'r ateb yn ddieithriad, "y mae'n llai o drafferth i mi wneud y peth fy hun." 'Doedd dim rheswm yn y byd dros hynny, wrth gwrs, ond dyna fel yr oedd hi i fod.

O dan ei deyrnasiad ef ni byddai'r Anrhydeddus Gymdeithas byth yn myned allan o Lundain ond i'r ddau gyfarfod a gynhelid yn ystod wythnos yr eisteddfod genedlaethol. Yr wythnos honno oedd wythnos fawr Syr Vincent, ac anodd i lawer ohonom oedd meddwl am yr eisteddfod hebddo ef. Yn fuan ar ôl i mi ddechrau myned i'r eisteddfod bob blwyddyn dywedodd wrthyf ei fod ef wedi bod yn myned yn ddifwlch am hanner canrif, a chofiaf i'r Dr. Mary Davies ddweud yr adeg honno ei bod hithau wedi bod yn myned am gyfnod tebyg. Yr oedd yn aelod o'r Orsedd, ond yn yr Orsedd fel yr oedd cyn i'r drefn newydd ar bethau ddyfod i rym yr oedd ef yn gartrefol. Yr adeg honno byddai gan rai o'r Gorseddigion wisgoedd a ddyfeisiwyd ganddynt hwy eu hunain, a