Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

theimlodd rhai ohonom, er fod yr holl flynyddoedd rhyngom, ein bod wedi colli cyfaill cywir. Pan oeddwn yn Llundain dro yn ôl aethum ar hyd Chancery Lane gan gofio am Syr Vincent a'r ystafell glyd yng nghefn y swyddfa lle bûm yn cael cwpanaid o de a sgwrs lawer gwaith. Yr oedd yr ystafell a'r swyddfa wedi mynd; nid oedd yno ddim ond y sylfeini adfeiliedig yn aros ar ôl y dinistr.