Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

JOHN WILLIAMS, 1853—1921.

DEUDWCH Wrth bobl y Genedl am beidio gadael i X 'sgrifennu nonsense," meddai'r Parchedig John Williams, a oedd ar y pryd yn weinidog eglwys Princes Road yn Lerpwl. Dyna'r tro cyntaf i mi siarad ag ef, ag eithrio un tro am ychydig funudau rai blynyddoedd cyn hynny pan ddaeth i edrych amdanaf i'r Royal Infirmary a phan yr oedd ef a minnau mor dawedog a'n gilydd. Ar riniog drws ei dŷ yn Kingsley Road y rhoddodd y neges i mi i'w throsglwyddo i "bobol y Genedl." Yr oeddwn wedi galw i'w weled, ar gais y bobl hynny, i gael ymgom ag ef am y diwygiad—diwygiad 1904-6,-a oedd ar y pryd ar ei lawn anterth. Nid oeddwn fawr fwy na bachgen ar y pryd a chryn oruchwyliaeth i mi oedd wynebu un o wŷr enwocaf Cymru a'i holi, a hynny pan oedd yntau, fel y diwygiad, ar ei awr anterth. Yn wir, ni bu'r gorchwyl hwnnw—o fyrddio pobl a'u holi—erioed yn un hawdd i mi hyd yn oed ar ôl blynyddoedd o brofiad ac o ymdaro yn y byd, ac nid oedd John Williams, ar yr olwg gyntaf, yn ŵr hawdd iawn myned ato. Yr oedd yn dal ac yn urddasol ei osgo, yr oedd y talcen mawr a'r trwyn bwaog a'r ddau lygad agored yn peri ei fod yn ymddangos yn herfeiddiol ei drem, ac nid oedd ei ddull ychwaith yn rhwyddhau llawer ar y ffordd i fachgen swil fyned yn agos ato. Yr oedd braidd yn gwta a phrysur ei ffordd, fel pe buasai ganddo lawer o bethau eraill ar ei feddwl ac yn galw amdano, a dim llawer o amser i roddi sylw i chwi.

Ychydig a gofiaf am yr ymgom a fu rhyngom ag eithrio'r frawddeg a ddyfynwyd, ond yr oedd honno, ar lawer ystyr, yn nodweddiadol o'r dyn. Ni chlywswn i son erioed o'r blaen am yr X y cyfeiriai ato, er ei fod yn ŵr adnabyddus yn ei ddydd. Heblaw hynny, ychydig a wyddwn i am y Genedl