Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffarmwr fel hwythau, dyn wedi ei fagu yn yr un traddodiad ac heb ymadael ag ef, ffarmwr yn siarad wrth ffermwyr mewn iaith a oedd yn ddealladwy i bob un ohonynt, iaith bob dydd y bobl ond ei bod wedi ei chyffwrdd a marworyn oddiar allor athrylith. "Ffarmwr gogoneddus" oedd deffiniad Gwynn Jones o John Williams, ac os yr ystyr oedd mai gwladwr, ond gwladwr o athrylith, oedd, yna yr oedd y deffiniad yn ddigon cywir. Dyna oedd—amaethwr o sir Fôn a ddigwyddai fod hefyd yn berchen athrylith ac yn rheng flaenaf areithwyr Prydain yn ei ddydd. Y mae'n amhosibl deall John Williams heb gofio am y cefndir ym Môn. Carai ef Fôn mor angerddol ag y carai Goronwy hi, a gwasanaethodd hi yn ffyddlon iawn ar hyd ei oes. Un tro ceisiai berswadio gweinidog i ddyfod i Fôn i fyw, ac yr oedd gweinidog arall yn y cwmni.

"Y mae'n rhaid i chi ddwad i Sir Fôn acw," meddai John Williams yn bendant, yn ôl ei arfer. "Dyna'ch lle chi."

"Ie, Dr. Williams," meddai'r llall, yn wylaidd iawn, "ond beth os na bydd Rhagluniaeth yn agor drws i mi yno?"

"Twt, lol!" meddai'r trydydd gweinidog, "wyddost ti ddim mai Dr. Williams ydi Rhagluniaeth yn Sir Fôn!"

Nid oedd ef yn hoffi'r dywediad, ond yr oedd elfen o wir ynddo. Ym Môn yr oedd ei wreiddiau ac am Fôn yr ymglymodd ei serch.

Y mae'n debyg bod dydd y "pregethu mawr" wedi myned heibio yng Nghymru. Newidiodd chwaeth y cynulleidfaoedd—a defnyddiaf y gair chwaeth yn fwriadol, canys y mae llawer o arwyddion fod y diddordeb yn aros. Llenwir capeli mawr ar ddyddiau'r uchelwyliau, er y gellid amau mai ffurf ar adloniant ydyw gwrando pregethau i rai; beth bynnag am hynny, y mae'n amlwg fod diddordeb yn aros o hyd. Ond y mae'r chwaeth wedi newid. Cofiaf glywed John Williams yn pregethu ym Moriah, Caernarfon, ar nos Sul, ddeuddeng