oeddwn mewn lle da i sylwi ar y gynulleidfa, tua chwe mil o rif, y mae'n debyg. Y mae'n rhaid cofio mai un o flynyddoedd y diwygiad oedd hi a bod teimladau llawer yn frwd. Ond dyma a ddigwyddodd. Yr oedd John Williams yn adeiladu ei bregeth o'r cychwyn, bron fel pe bai'n saer yn codi pont ac yn rhoddi pob carreg yn ei lle yn ofalus. Gwyddech mai dyna yr oedd yn ei wneud, ac fel yr ai ymlaen disgwyliech am yr adeg i roddi'r maen clo yn ei le a gorffen y bont. Nid oedd yn gwaeddi—anaml iawn y byddai yn gwneud hynny. Urddas, difrifwch, eglurder, a broddegau caboledig, cryfion, oedd nerth ei arddull ef, a siaradai gyda hamdden meistraidd, gan ddilyn llinell glir o feddwl o'r cychwyn. Yr oedd hynny, gyda llaw, yn ei nodweddu bob amser; bûm yn gwneud adroddiadau o gyfarfodydd lle'r oedd ef yn un o'r siaradwyr ac ni bu neb erioed yn haws ei ddilyn, canys yr oedd rhediad ei araith yn drefnus bob amser—yn symud yn naturiol o'r naill bwynt i'r llall, y ffrâm neu'r adeiladwaith yn gymhesur ac yn gadarn. Ac felly yr oedd y diwrnod hwnnw; bron nad oedd dyn yn dal ei anadl wrth wylio yr ymresymiad a'r bregeth yn dirwyn ymlaen.
Yr oedd hynny yn wir am y gynulleidfa. Yr oeddwn wedi hen arfer gwylio cynulleidfaoedd y pryd hynny yn rhinwedd fy swydd fel gohebydd papur newydd yng nghyrddau'r diwygiad, ac yr wyf yn gwbl sicr ynghylch yr hyn a welais yn y Pafiliwn y diwrnod hwnnw. Wedi cyrraedd tua canol y bregeth yr oedd John Williams yn ysgwyd ei fraich estynedig yn ôl a blaen dros astell y pulpud—symudiad araf, cyson, yn ôl a blaen, ac hollol naturiol iddo ef. A gwelais fod y gynulleidfa ar ganol y llawr yn siglo yn araf yn ôl a blaen hefyd fel pe buasent yn cadw amser gyda'r fraich, neu fel y llanw yn siglo gyda'r lloer. Ffolineb fuasai ceisio gosod terfynau i'r hyn y gallai dyn a fedrai effeithio felly ar filoedd o bobl ei wneud yn ein hoes ninnau.