Y noson honno cerddwn o'r Pafiliwn gyda John Williams. Ar yr allt safodd a dywedodd, "'Rydw i wedi gadael fy mhregeth yn y Beibl ar y pulpud; rhaid i mi fynd yn ôl i'w chael hi." Dywedais yr awn fy hun, ac aethum. Y cwbl oedd yno oedd tri neu bedwar o gardiau o faint cardiau post ac ychydig linellau ar bob un. Ymhen blynyddoedd wedyn gofynnais iddo a fyddai yn ysgrifennu ei bregethau. Gwyddwn ei fod yn paratoi yn ofalus hyd yn oed ar gyfer anerchiad byr mewn angladd neu bwyllgor, ond nid oeddwn sicr a fyddai yn ysgrifennu'r cwbl.
"Na fyddaf," oedd yr ateb. "Mi fum yn gwneud ar un adeg, hefyd. Pan oeddwn i'n weinidog ym Mrynsiencyn mi deimlais fy mod i'n mynd i ymddiried yn fy nawn ac yn pregethu yn rhwydd a llac, heb roi digon yn y bregeth. Mi es ati hi i ysgrifennu pregeth y nos yn y Bryn yn ofalus, bob gair, a hynny am gryn amser, gyda'r canlyniad fod pobl yn dweud fy mod i'n pregethu yn well o lawer yn y bore nac yn yr hwyr!"
Yr oedd yn feirniad pur fanwl ar bregethu, a chanddo syniad pendant iawn ynghylch sut y dylid pregethu.
"Glywsoch chi Prytherch yn ei methu hi?" meddai wrthyf un tro ar ôl oedfa mewn sasiwn lle'r oedd ef a'r diweddar William Prytherch wedi cyd-bregethu. "Glywsoch chi'r fath beth erioed."
"Be' 'dach 'n i feddwl?" meddwn innau, yn gweled fod y gwres wedi codi'n uchel.
Rydw i wedi deud wrtho fo dro ar ôl tro," meddai ffrom iawn, "ond waeth i mi heb! Mae o'n gneud y peth o hyd ac mi gwnaeth o heddiw-cyrraedd cleimacs ei bregeth ar ddiwedd y chwarter awr cyntaf ac yna mynd ar i waered o hynny i'r diwedd. 'Dwn i ddim be' sydd arno fo—pregethwr mawr iawn tase fo'n peidio gneud pethau fel yna." Gwyddwn ei fod yn ystyried William Prytherch y pregethwr mwyaf