Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yng Nghymru yn ei ddydd ac ar ei uchelfannau, a dyna a barai ei fod mor ddig wrth weled ei arwr yn methu cyrraedd y nôd. Buasai wedi dweud yr un peth yn union wrth William Prytherch ei hun pe buasai yn y cyrraedd ar y pryd.

Nid oedd arno ofn siarad yn blaen. Unwaith, ar ôl oedfa'r nos, yr oedd ef a minnau yn cael swper yn nhŷ cyfaill, gŵr cyhoeddus pur adnabyddus. Dechreuodd John Williams ein beirniadu ein dau am na roddem fwy o wasanaeth i'r eglwysi y perthynem iddynt. Ceisiodd gŵr y tŷ droi'r stori.

"Gymrwch chi halen, Dr. Williams?" meddai.

"Hitiwch befo'r halen," meddai Dr. Williams, yn chwifio ei law yn awdurdodol ar draws y bwrdd. "Y gwir ydi nad oes yr un ohonoch chi wedi rhoi owns o'ch pwysau o dan yr achos erioed!" Yr oedd eisiau gonestrwydd a thipyn o ddewrder i siarad felly o dan yr amgylchiadau. Y mae'n deg ychwanegu, hefyd, fod gŵr y tŷ wedi gweithio cryn lawer gyda'r achos.

Arweiniai ei duedd i ddywedyd ei feddwl yn blaen a difloesgni i gyfyngau digrif weithiau. Unwaith, pan oeddwn yn golygu'r Goleuad, gofynnodd i mi sut y byddwn yn dewis dyn i ysgrifennu ar y sasiwn—yr oedd yn ffasiwn y pryd hynny cael ysgrif arweiniol heb enw wrthi yn adolygu gweithrediadau sasiwn cyn gynted ag y byddai wedi myned heibio. Atebais y byddwn yn ceisio dewis rhywun a wyddai gryn lawer am y gwaith ac a fyddai yn debyg o fod mewn cydymdeimlad ag ef.

"Da iawn," meddai yntau, "ond 'tydyn nhw ddim felly i gyd. Dyna chi'r dyn a 'sgrifennodd ar Sasiwn Beaumaris i'r rhifyn diwethaf, dyn na wyddai fo ddim am y Cyfundeb, ddyliwn i, ac na fuo fo erioed mewn sasiwn o'r blaen!"

Ni ddywedodd neb yr un gair, ond yr oedd yn galed arnaf. Yr oedd awdur yr ysgrif yn ŵr blaenllaw iawn yn y Cyfundeb, ac yn eistedd yn ymyl John Williams ar y pryd. Yr oedd yn rhaid cofio fod sasiwn yn sir Fôn, a sasiwn ym Meaumaris yn anad unman, canys un o ardal Beaumaris oedd ef ei hun,