yn rhywbeth uwchlaw pob uchelwyl i John Williams, ac y mae'n debyg na aned y dyn a allasai wneud cyfiawnder a hwy yn ei farn ef. Y gwir oedd fod yr ysgrif yn un dda.
Cwynir weithiau fod pregethwyr yn eiddigeddus wrth ei gilydd ac nad ydynt yn hoffi clywed gormod o ganmol ar eu brodyr. Os yw hynny yn wir am rai, yr oedd ymhell iawn o fod yn wir am John Williams. Nid oedd derfyn ar ei ganmoliaeth i ambell un o'i frodyr, ac os byddai wedi clywed pregethwr ieuanc addawol canai glodydd hwnnw ar hyd a lled Cymru ac yn aml iawn rhoddai gynorthwy iddo mewn ffordd sylweddol. Yr oedd ei fawrfrydigrwydd yn yr ystyr yma yn nodedig; clywais amdano yn ymosod yn ffyrnig ac ar goedd ar flaenoriaid ei sir ei hun am beidio rhoddi cyhoeddiadau i "un o'r pregethwyr gorau a ddaeth i sir Fôn erioed," meddai ef, a thrwy hynny yn newid byd y gweinidog hwnnw. Yr oedd nodwedd arall ynddo yn amlycach i mi fel newyddiadurwr nag i lawer, efallai,—ni byddai byth yn ceisio cyhoeddusrwydd. Gŵyr pob un a fu ynglyn a phapur newydd fod llawer o hela cyhoeddusrwydd, o ofalu fod symudiadau a dywediadau yn cael eu croniclo, o beidio dodi'r gannwyll dan lestr, a dweud y lleiaf. Y mae'r peth yn gelfyddyd gain gan rai—yn gelfyddyd, beth bynnag. Nid oedd dim o hynny yn John Williams; ni cheisiodd gennyf roddi gair amdano mewn unrhyw bapur y bûm ynglyn ag ef erioed—ag eithrio unwaith. Dywedodd wrthyf ychydig ymlaenllaw fod Prifysgol Cymru yn rhoddi gradd D.D. iddo, "rhag," meddai, "i'r hen bapurau bach yna ei gael o'ch blaen chi." Ac yr oedd yn amlwg ei fod yn swil wrth ddweud cymaint a hynny.
Gallech fod yn hollol sicr o'i onestrwydd bob amser ond nid bob amser y gallech ddibynnu ar ei farn.
Byddaf yn cofio amdano un diwrnod yn nechrau y rhyfel mawr cyntaf. Yr oedd y Weinyddiaeth wedi cyhoeddi yr