oedid rhoddi Mesur Datgysylltiad mewn grym tra byddai'r rhyfel. Gofynnodd John Williams i mi groesi Menai i'w weled yn ei dŷ yn Llwyn Idris. Aethum, ar brynhawn teg, a chael fod y diweddar Barchedig Thomas Hughes, o'r Felinheli y pryd hynny, un o weinidogion amlycaf yr Eglwys Fethodistaidd, yno hefyd. Eisiau codi gwrthryfel yn erbyn y Mesur Oedi oedd ar John Williams, ac yr oedd yn ffrom iawn. Penderfynwyd galw cynhadledd yn y Rhyl i wrthdystio, a ni ein tri a ysgrifennodd y rhybuddion yn ei galw, os wyf yn cofio yn iawn. Cofiaf yn eithaf da i ni fod wrthi yn ysgrifennu trwy'r prynhawn, er na wn i erbyn hyn pa awdurdod oedd gennym na pha fodd y gwnaed y trefniadau. John Williams oedd y mwyaf tanllyd ohonom yn ei wrthwynebiad, a bygythiodd roddi Cymru ar dân os mynnai'r Weinyddiaeth oedi estyn cyfiawnder iddi ar ôl yr holl flynyddoedd.
Daeth diwrnod y gynhadledd a daeth llu o bobl i'r Rhyl. Yr oedd yn amlwg fod Lloyd George wedi anesmwytho; yr oedd ysgrifau yn y papurau Saesneg yn ceisio darbwyllo Cymru rhag peri anhwylustod i'r Weinyddiaeth yn y fath gyfwng. Cofiaf apêl mewn un papur dylanwadol at arweinwyr Cymru i beidio bod "yn ddynion bychan mewn cyfwng mawr," neu eiriau i'r un perwyl. Yr oedd yr arwyddion yn hawdd eu hadnabod i'r rhai ohonom a oedd yn arfer dilyn symudiadau gwleidyddol yng Nghymru yn y blynyddoedd hynny, pan yr oedd ei ddylanwad yng Nghymru a'i allu i sicrhau ei theyrngarwch yn rhan pur bwysig o ddylanwad Lloyd George yn y Senedd ac yn y Weinyddiaeth. Yr oedd y tir yn cael ei baratoi ganddo yn ofalus ar gyfer y Rhyl. Nid oedd yn hoffi annibyniaeth yng Nghymru.
Eithr nid oedd hynny wedi menu dim, hyd y gallwn weled, ar y gynhadledd. Yn hytrach, yr oedd y cyfeiriad at "ddynion bychan" wedi peri i lawer ffromi ac wedi cryfhau