Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu penderfyniad i wrthwynebu bwriad y Weinyddiaeth. Ond yr oedd un eithriad, a John Williams oedd hwnnw. Gwyddem oll erbyn hynny ei fod wedi bod yn Llundain a'i fod wedi gweled Lloyd George, a gwyddem oll hefyd pa beth a olygai hynny. Gallai Lloyd George swyno John Williams; yr oedd ganddo hoffter tuag ato yn bersonol ac edmygedd, diderfyn bron, o'i athrylith. Teimlad hollol onest felly oedd, yn fy marn i, yn cyfrif am y dylanwad aruthrol a oedd gan Lloyd George arno am flynyddoedd, ac nid oedd neb a wyddai am y dylanwad hwnnw yn well na Lloyd George ei hun. Defnyddiodd ef er mwyn lleddfu dig John Williams o flaen cynhadledd y Rhyl. Ni allai ddyfod yno ei hun, megis y gwnaeth yng Nghaerdydd yn fuan ar ôl iddo ddyfod yn Weinidog y Goron a phan gyfodwyd baner gwrthryfel o'r blaen. Ond gofalodd fod y gŵr a oedd fwyaf cyfrifol am alw'r gynhadledd yno i liniaru ac i ddofi ac i roddi ei achos ef ger bron hyd y byddai hynny yn bosibl. Gwnaeth John Williams araith ddof, eto heb droi ei gefn ar y gwrthwynebiad, a defnyddiodd un frawddeg a andwyodd lawer ar ei ddylanwad. "Gwyliwch chi ddigio hwn," meddai am Lloyd George, ac nid oedd y rhybudd yn dderbyniol.

Yr oedd y digwyddiad yn nodweddiadol o'r dyn, yn ei nerth a'i wendid. Mewn gwirionedd, ni fwriadwyd ef i fod yn arweinydd gwleidyddol nac, efallai, hyd yn oed yn wleidydd eglwysig. Yr oedd yn rhy dueddol i gymryd ei gario gan deimlad y foment ac i ffurfio barn o dan ddylanwad eraill. Hwyrach na buaswn yn rhoddi'r peth yn rhy gryf pe dywedaswn ei fod yn rhy onest. Eto oni buasai am y gwendidau hyn ni buasai mor ddwfn yn serch y rhai a oedd yn ei adnabod orau. Trwy'r cwbl, nid oedd gan neb ohonom amheuaeth am ei wir fawredd. Yr oedd yn llinach y cewri; ni allech fod yn ei gwmni heb feddwl am John Elias a Christmas