Evans, Williams o'r Wern a John Jones, Talsarn. Dyna ei draddodiad ef, traddodiad pregethwyr mawr Cymru, ac yr oedd yn byw yn awyrgylch y traddodiad hwnnw. Gyda'r gwn dan ei gesail a'r hen siwt lwyd amdano neu yn ffroc-côt a het silc y sasiwn, ni ellid amau ei darddiad yn uniongyrchol o'r egni a ffrwydrodd yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif. Ar rai ystyron yr oedd yn un o'r rhai olaf yn y traddodiad digamsyniol hwnnw.
Y tro olaf i mi ei weled oedd yn eisteddfod Caernarfon yn 1921. Nid oeddwn wedi ei gyfarfod ers tro cyn hynny a Yr oedd brawychais wrth weled yr olwg guriedig oedd arno. yn amlwg fod rhywbeth pur fawr wedi digwydd. Buom yn siarad, ef, Ellis Davies, Syr Vincent Evans a minnau, am ysbaid wrth fwrdd y wasg cyn i'r cyngerdd ddechrau un noson, a sylwais fod yr hen ynni fel pe'n gwanhau, er fod cryn lawer o'r hen bendantrwydd yn aros. Siaradem am gofiant i Evan Jones, Caernarfon, a bu'n trafod ei nodweddion am ysbaid. Yna ffarweliasom, a minnau yn teimlo fod rhywbeth difrifol o'i le ar iechyd y gŵr a fyddai mor gawraidd ei olwg gynt. Cyn pen hir daeth y newydd am ei waeledd, ac un diwrnod ym mis Tachwedd, 1921, clywais, ar heol Caerdydd, fod John Williams, Brynsiencyn, wedi marw. Daeth distawrwydd dros y cwmni; credaf fod pawb oedd ynddo yn teimlo, fel finnau, fod rhywbeth mawr a byw iawn wedi myned allan o fywyd Cymru. Ni welwyd ac ni welir neb yr un fath ag ef. Y mae'n gorwedd yn ymyl John Elias ym mynwent Llanfaes, ac ni theimla neb fod dim anghydweddol yn yr agosrwydd hwnnw.
Rhai blynyddoedd ar ôl ei farw troais i'r fynwent dawel honno yng nghanol caeau distaw Môn ac yn ymyl lli Menai. Holais wraig a oedd yn cerdded ar hyd un o'r llwybrau ynghylch y beddau.