gymwys fel pe buasem ar yr un tir yn union o ran oed a phrofiad, heb unrhyw arlliw o nawddogaeth nac o siarad i lawr at un a oedd flynyddoedd lawer yn iau nag ef. Yr oedd hynny yn nodweddiadol o John Arthur Price; yr oedd yn ŵr bonheddig trwyddo draw—yn ŵr bonheddig od, os mynnwch, ond yn un trwyadl y tuhwnt i bob dadl. Ac o'r dydd hwnnw buom yn gyfeillion. Ai blynyddoedd heibio weithiau heb i ni gyfarfod, ond byddwn yn clywed oddiwrtho yn lled aml ac yr oeddwn yn sicr yn fy meddwl fod gennyf gyfaill cwbl ddidwyll ynddo ef ac un y gellid ymddiried ynddo hyd y carn. Ni thybiaf y buasai twyll na ffug na dichell yn bosibl iddo.
Yr oedd yn gyfreithiwr dysgedig. Y mae'n amheus gennyf a fu yn ymddangos yn aml mewn llys, eithr yr oedd iddo air uchel iawn fel awdurdod ar y gyfraith eglwysig ac ymgynghorid ag ef byth a beunydd ar faterion o'r fath. Ysgrifennai gryn lawer i bapurau a chylchgronau Lloegr, yn enwedig y rhai Eglwysig, a bu ar un adeg yn ysgrifennu yn weddol gyson i'r Manchester Guardian. Ond nid ei wybodaeth o'r gyfraith na'i waith fel newyddiadurwr a'i gwnai yn ddiddorol ac yn bwysig hefyd—i Gymro, eithr ei ddiddordeb dwfn a'i gariad eirias at Gymru a'i gred diball ynddi fel cenedl. Yr oedd John Arthur Price yn genedlaetholwr argyhoeddedig a chadwodd ei ffydd hyd y diwedd.
Yr oedd hynny yn beth digon rhyfedd, ar lawer ystyr. Ganed ef yn yr Amwythig, yn 1861, yn fab i gyfreithiwr adnabyddus yn y dref honno. Cefndir y dosbarth tiriog, a dosbarth tiriog y cyfnod hwnnw, pan yr oedd y peth yn golygu rhywbeth neilltuol, oedd ganddo yn ei ieuenctid. Bu yn ysgol enwog yr Amwythig. Ni chlywodd, hyd y gwn i, air o Gymraeg yn ei gartref erioed; ni siaradai yntau Gymraeg i'r diwedd. Nid wyf yn sicr faint a ddeallai; y mae argraff ar fy meddwl ei fod yn darllen Cymraeg i ryw raddau. Gwn y byddai yn derbyn Y Genedl. Gwn hefyd na fynnai ysgrifennu