oddi wrth Doriaeth at Ryddfrydiaeth a Chenedlaetholdeb,—y ddau beth ar y pryd yn gyfystyr, neu bron a bod felly, yng Nghymru. Pan oedd yn Rhydychen ac yn darllen am y Bar yr oedd yn Dori cydwybodol. Cymysgai lawer â chlerigwyr Esgobaeth Llanelwy ar un adeg, ac yr oedd Rhyfel y Degwm yn chwerw yn y rhanbarthau hynny. Credai John Arthur Price yr hyn a glywsai ac a ddarllenasai am elyniaeth y ffermwyr Cymreig at y meistri tir ac at yr Eglwys, a dywed ei fod, megis llawer o'i gydnabod, yn disgwyl clywed unrhyw ddydd fod y guerre aux chateaux wedi torri allan, fel yn y chwyldroad yn Ffrainc. Byddai yn cael tipyn o hwyl am ei ben ei hun wrth adrodd yr hanes, ond yr oedd yn amlwg iddo fod ar un adeg yn adlewyrchiad pur gywir o farn a dull meddwl y dosbarth tiriog yng Nghymru a'u hefelychwyr y pryd hynny. Aeth y dull hwnnw o feddwl heibio i raddau pell erbyn hyn, er fod anwybodaeth rhai pobl sydd yn byw yng Nghymru am Gymru yn parhau yn rhyfeddol o hyd, eithr ychydig iawn a aeth trwy'r datblygiad yr aeth John Arthur Price trwyddo. Parhaodd yn Eglwyswr teyrngar a defosiynol, ond daeth i fod yn Rhyddfrydwr, yn gefnogwr i ddatgysylltiad, yn awyddus am ddiwygio deddfau'r tir, ac, uwchlaw'r cwbl, yn Gymro a garai Gymru a'i holl galon.
Yr oedd yn ŵr diddorol ei gwmni. Bûm fwy nag unwaith yn cydfwyta ag ef ac yn trafod naill ai gwleidyddiaeth neu grefydd. Yr oedd, meddir, yn awdurdod ar winoedd ac ar seremonïau ynglyn a gwinoedd. Llefarai fel un ag awdurdod ganddo wrth benderfynu pa winoedd a fynnai gyda'i ginio a byddai'r gwŷr a oedd yn gofalu am y gwin mewn clybiau a gwestai yn gwrando arno gyda pharch. I mi, wedi fy magu o dan amodau a chyda syniadau pur wahanol, yr oedd hyn oll yn gyfrinach y tuhwnt i'm cyrraedd, ond rhoddai John Arthur Price bwys mawr arni ac yr oedd ganddo syniadau pendant ynghylch y ffordd briodol o yrru'r botel win o gylch y