bwrdd, hyd yn oed os na byddai yno neb ond ef ei hun yn yfed. Tybiaf ei fod yn parchu egwyddor llwyrymwrthodwyr, ond parch tosturiol oedd; credai eu bod yn ymwrthod heb reswm ag un o fendithion rhagluniaeth. A rhag ofn i rywun dynnu camgasgliadau, hwyrach y dylwn ddywedyd ei fod yn ddirwestwr diargyhoedd yn ystyr briodol y gair.
Fel yr oedd yn heneiddio credaf fod ei ddiddordeb yn y byd o'i gwmpas yn gwanhau; hen bethau oedd pynciau ei lythyrau ataf gan mwyaf yn y blynyddoedd olaf, ag eithrio pan ysgrifennai ynghylch ryw bwnc neu berson Eglwysig. Un o'r ysgrifau olaf a gefais ganddo oedd un ar y diweddar Tra Pharchedig William Williams, Deon Tyddewi, ac y mae y pethau a ddywed yn honno yn bur nodweddiadol. "He impressed me," meddai am y Deon, "as a man who was at once in a religious sense a keen Welsh Nationalist and a High Churchman, though of a peculiar kind. I never knew a man in Wales, Churchman or Nonconformist, who was more deeply attached to the Welsh language than was William Williams. On one occasion a Welsh Calvinistic Methodist who had wandered to St. Davids attended a morning service in the cathedral to hear Dean Howell, of whose fame as a preacher he had heard great things, deliver a sermon. He was disappointed. In the first place Howell preached in English, and secondly that particular sermon was not very impressive. However, the Calvinistic Methodist attended the evening service and heard William Williams (who was then Canon of St. Davids) preach in Welsh. He told his friends when he got home that Canon Williams was indeed a great Welsh preacher. . . He was a High Churchman of a particular nationalist type. He desired the Church to be in all respects a national institution, using the Welsh language and having an Archbishop of its own. He longed in other