Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

argyhoeddedig mai mewn ymreolaeth yr oedd unig obaith Cymru fel cenedl, a gellir dywedyd hyn yn ddibetrus amdano—yr oedd ganddo drylwyrach gwybodaeth am hanes a datblygiadau diweddar Cymru yn wleidyddol nac odid neb y gwn i amdano. Ei ysgrif ef ar Tom Ellis yn Welsh Political Leaders of the Nineteenth Century ydyw un o'r pethau gorau a ysgrifennwyd erioed ar y gŵr hwnnw ac ar wleidyddiaeth Cymru yn y cyfnod hwnnw.

Dywedais fod ei feddwl yn troi yn fwy at yr amser a fu fel yr heneiddiai. Y mae'n wir iddo dderbyn Cangelloriaeth Esgobaeth Bangor ychydig cyn iddo farw a'i fod yn falch o'r ymddiried a osododd yr Eglwys arno, eithr gwyddai yn ei galon ei fod yn rhy guriedig i allu gobeithio bod am dymor hir yn y swydd. Collasai ei briod ac yr oedd yn aros yn Nhrawsfynydd, yn fregus iawn ei iechyd. Yr oedd tinc o ddigalondid yn ei lythyrau, ond yr oedd rhai o'r hen ddiddordebau yn parhau o hyd. Ebrill 27, 1942, yw dyddiad y llythyr diwethaf a gefais ganddo, llythyr o naw tudalen yn ei lawysgrif ryfeddol, na allai ond ychydig iawn ei darllen. Y mae hwnnw yn hollol nodweddiadol o'r dyn; traethawd yw ar y Syr Watkin Williams Wynn a oedd yn gefnogydd i Charles Stuart yn 1745, a'i amcan oedd rhoddi gwybod i mi am rai ffeithiau diddorol a allai fod o ddefnydd i mi. Yr oedd y caredigrwydd mor nodweddiadol a'r pwnc. Ac efallai fod yr ôl-ysgrif yn fwy nodweddiadol fyth. Nid yw ond brawddeg, ar dudalen olaf y llythyr hir ynghylch digwyddiad ddwy ganrif yn ôl. "Is not the war wearisome?", a dyna'r cwbl—yn 1942.

Nid oeddwn wedi ei weled ers rhai blynyddoedd cyn hynny. Yng Nghaernarfon y bu'r cyfarfyddiad hwnnw, a gofynnodd i mi gyd-gerdded ag ef i'r stesion. Brawychais wrth weled mor fyr oedd ei gam ac mor araf ei symudiad. Pwysai ar fy mraich ar hyd y ffordd. Ond er fod y corff yn amlwg yn