ANTHROPOS, 1853-1944.
I FEDDU syniad clir am fywyd llenyddol Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg y mae'n rhaid darllen llu o lythyrau beirdd a llenorion, llythyrau megis y rhai a geir yn Atgof Uwch Angof Myrddin Fardd, gohebiaethau yn y cylchgronau a'r papurau newydd ac, am flynyddoedd olaf y cyfnod, rifynnau'r Geninen Eisteddfodol. Yr argraff a adewir ar eich meddwl ydyw fod yma weithgarwch mawr, ynni di-hysbydd a diddordeb diderfyn mewn llu o bethau dibwys iawn. Cenid awdlau a cherddi maith ac enillai eu hawduron safle a chlod am eu gwaith, ond pan holir pwy oedd yn darllen y cerddi y mae'n anodd iawn cael ateb. Llenwid colofnau'r papurau newydd â dadleuon ynghylch dyfarniadau eisteddfodol, ymohebai'r beirdd a'r llenorion a'i gilydd ynghylch manion eisteddfodol a chystadleuol fel pe buasai anfarwoldeb yn y glorian, a siaradent amdanynt eu hunain fel pobl oedd yn teimlo eu bod yn perthyn i urdd a dosbarth ar wahan. "Ni'r beirdd," meddent, a chyfarchent ei gilydd gan ofyn "Sut mae'r awen?" Cyfyng iawn oedd gorwelion llawer ohonynt a chyfyngedig iawn oedd eu gwybodaeth, hyd yn oed am lenyddiaeth eu gwlad eu hun. Ansicr oedd eu safonau, ac yr oeddynt wedi colli cyffyrddiad a'r hen draddodiad Cymreig bron yn llwyr.
Yr oedd y bywyd egniol yma yn cydoesi â bywyd arall nad oedd yn cymryd y sylw lleiaf ohono. Yn ddiweddar bûm yn darllen pentwr o lythyrau a ysgrifennwyd gan bregethwr poblogaidd iawn yn ystod y cyfnod rhwng 1840 ac 1870, gŵr a oedd yn byw mewn ardal hollol Gymreig, yn troi bron yn gyfangwbl yn y cylch Cymreig, ac yn gryn feistr ar arddull Gymraeg ei hun. Nid oes gymaint a chyfeiriad at fardd na llenor Cymreig, cyfoes nac fel arall, yn yr un o'r llythyrau hyd