Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol I.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

feddwl. Ef oedd y ddolen bersonol olaf, efallai, â rhai o'i beirdd a'i llenorion; yr oedd yn adnabod Ceiriog a Daniel Owen, siaradai am Ioan Arfon—"yr Ioan" yn ôl arfer yr urdd, fel hen gydnabod, medrai adrodd hanesion am Lew Llwyfo na buont erioed ar glawr, ac yr oedd wedi cyfarfod bron bawb a fu'n cyfrif ym myd llenyddol a newyddiadurol Cymru yn ystod deng mlynedd a thrigain. Yr oedd ef yn llawer iawn gwell llenor na'r rhan fwyaf o wŷr y traddodiad; bu yn ffodus i ddyfod o dan ddylanwad Lewis Edwards yn fore ac ni fethodd Lewis Edwards erioed a rhoddi syniad, beth bynnag, i'r rhai a fu gydag ef yn y Bala, am fyd eangach na'r cylch llenyddol Cymreig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Heblaw hynny, yr oedd gan Anthropos athrylith—nid yw athrylith yn air rhy gryf,—ac arabedd.

Er hynny, yr oedd nôd digamsyniol y cyfnod arno yntau. Prin iawn oedd ei ddiddordeb yn hen lenyddiaeth Cymru, a phrin oedd ei wybodaeth amdani hefyd. Diflas braidd fyddai ei gyfeiriadau at athrawiaethau llenyddol ac ieithyddol newydd, ac er ei fod yn gyfaill ag amryw o feirdd diweddar, prin y gellid dywedyd ei fod yn edmygydd brwdfrydig o'u gwaith. Mewn gwirionedd, ni bu cylch ei ddarllen erioed yn eang; yn Saesneg yr oedd yn hynod gyfyngedig, a'r peth a apeliai yn bennaf ato yn ôl pob golwg oedd teimladrwydd beirdd fel Mrs. Hemans a Longfellow, sentimentaliaeth a adlewyrchid gan amryw o'i ganeuon ef ei hun ac yn ei ysgrifau hefyd—weithiau. Gallesid tybio, wrth eu darllen, mai y "mwyn" a'r "prydferth" oedd y pethau a apeliai ato ef ac a edmygid ganddo, ac y mae'n ddiamau fod llu o'i ddarllenwyr—ac yr oedd ganddo lu o ddarllenwyr ar un adeg—wedi synio amdano fel gŵr felly. Nid oedd modd iddynt hwy, nad oeddynt yn ei adnabod yn y cnawd, wybod am y tafod miniog, y llygaid llym, yr anallu i oddef ffyliaid yn llawen. Yn wir, ai llawer hyd yn oed o'r rhai a wyddai am ei arabedd ar