dyfod i gyffyrddiad â byd eangach na byd ein bywyd bob dydd yn nosbarth y prifathro. A dyna, yn fy marn i, wasanaeth mawr yr ysgolion sir i Gymru.
Nid wyf yn meddwl y gellid dweud fod yno awyrgylch Gymreig yn yr ysgol. Daeth John Rhys Evans ei hun yn Gymro da o ran iaith, ac yr oedd yn Gymro trwyadl o ran teimlad, eithr ni roddodd osgo Gymreig i'n haddysg o gwbl. Saeson oedd dau o'r athrawon ar y pryd a chofiaf enghraifft o anfantais peth felly. Sais, gŵr rhagorol ymhob ystyr ac athro da, a ddysgai Ffrangeg i ni. Un diwrnod daeth Owen Owen, prif arolygydd yr ysgolion dan Fwrdd Canol Cymru, i'r ysgol a chymerodd y dosbarth yr oeddwn i ynddo mewn Ffrangeg. Aeth un ohonom i anhawster gyda rhai o'r berfau. "Wel", meddai Owen Owen, "be' fyddwch chi yn ei ddweud yn Gymraeg?" a dangosodd i ni fel yr oedd y ferf Gymraeg, yr oeddym yn hollol gynefin â hi, yn treiglo yn debyg i'r Ffrangeg. Ni ellid disgwyl i blant deuddeg a thair ar ddeg oed ddarganfod peth felly drostynt eu hunain ac ni ellid disgwyl i Sais heb fedru gair o Gymraeg ei ddangos i ni. Ond agorodd Owen Owen ffenestr yn ein meddyliau y bore hwnnw, a byth er hynny yr wyf yn argyhoeddedig fod cael athrawon yn medru Cymraeg ac yn deall cefndir y plant yn beth pwysig iawn yng Nghymru.
Yr oedd cefndir Rhys Evans yn iawn. Y tu cefn i Gaergrawnt a Llundain a Chroesoswallt ynddo ef yr oedd atgofion ei dad, a'i daid, yr hen fathamategydd o Aberystwyth, a'i daid o ochr ei fam, y Parch. Rhys Jones, o'r Felinheli. Yr oedd yn selog, er yn ddistaw, yn niwygiad 1904-6, a chofiaf ef yn dywedyd, ar ôl un o gyfarfodydd y diwygiad ym Mhorthmadog, "Yr ydach chi'n dwad i deimlo fod crefydd yn rhywbeth gwirioneddol". Poenai, yn ei flynyddoedd olaf, am fod cynifer o Saeson yn dyfod i fyw i Gymru. "Lle da i mi siarad," meddai, "a minnau yn siarad Saesneg bron bob