Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Amser. Ond nid ydyw'r math o bobl sydd yn dyfod yma yn gwneud lles yn y byd i'n bywyd." Gwyddai yn dda am bregethwyr Cymru, yr oedd ganddo straeon am amryw ohonynt, ac un o'i hoff atgofion oedd ei fod, pan oedd yn blentyn, wedi gweled angladd Henry Rees yn myned trwy'r Borth am fynwent Llantysilio. Yn gyfochrog a'r pethau hyn yr oedd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth, llenyddiaeth Groeg, yn arbennig, a llenyddiaeth gyfoes ei ieuenctid yn Lloegr, gwaith Barrie, Kipling, Andrew Lang, Stevenson, er enghraifft. Yr oedd yn ddedwydd gyda'i lyfrau.

Trychineb i ŵr fel ef oedd dallineb. Daeth hynny arno beth amser cyn iddo adael yr ysgol; medrai wybod gwahaniaeth rhwng tywyllwch a goleuni ac unwaith, pan gerddem ar hyd y Lôn Goed yn Eifionnydd, tynnodd fy sylw at harddwch twmpath mawr o eithin yn llawn blodau. Tybiwn ei fod yn gweled arlliw o ddisgleirdeb y melyn dan belydrau haul yr haf, ond byddwn yn amau weithiau ei fod yn cymryd arno weled mwy nag a fedrai. Ni chwynai; dysgodd ddarllen Braille a pharhaodd i ddarllen Groeg yn y lythyren honno. Yr oedd hynny yn nodweddiadol ohono; meddyliol ac ysbrydol oedd ei adnoddau. Nid peth bychan i sefydliad newydd fel yr ysgol sir oedd cael gŵr fel ef i osod carreg sylfaen ei thraddodiad.