ei dad, Morris Roberts, dyn ysgafn o gorff, chwim iawn ei symudiadau, ffraeth ei dafod a bywiog ei feddwl. Yr oedd Morris Roberts yn Fethodist Calfinaidd pendant iawn. Buasai dyn yn dweud ei fod yn rhagfarnllyd felly oni buasai yn gwybod am Morris Roberts a'i duedd i dynnu coes. Gan fod ei briod yn Fedyddwraig gadarn a'i ddau fab yr un fath yr oedd yn unol â natur Morris Roberts i gymryd arno bod yn fwy o Fethodist nag oedd mewn gwirionedd. "Dewch chi ddim i'r nefoedd, Morris Roberts", meddai rhywun wrtho, rhwng difrif a chwarae unwaith, "os na chymerwch chi'ch bedyddio". "'Does arna' i fawr o awydd mynd yno os oes yno lawer o rai fel ti!" meddai yntau. Yr oedd ynddo gryn lawer o ystyfnigrwydd; nid wyf yn meddwl y bu erioed yn gwrando ar ei fab yn pregethu. Hyd yn oed pan ddeuai i edrych amdano i Gaernarfon ai i un o gapeli y Methodistiaid ar y Sul yn lle mynd i Gaersalem. Gwyddem ni a oedd yn adnabod Morris Roberts faint o bwys i'w roi ar beth felly, ond yr oedd yn taro yn rhyfedd i ddieithriaid.
Un bore dydd Llun, a Morris Roberts yn aros yng Nghaernarfon, aeth am dro gyda chyfaill. Daeth aelod o Gaersalem i'w cyfarfod a chyfarchodd ef. "Tad ein Mr. Roberts ni, ynte?" meddai. "Ia", meddai Morris Roberts. "Wel", meddai'r llall yn geryddol braidd, "'roedd yn ddrwg iawn gen i na ddaethoch chi ddim i wrando ar eich mab ddoe". Sythodd Morris Roberts ac edrychodd arno. "Ho!" meddai, "y mae'n amlwg nad wyt ti ddim yn un o'r rhai callaf!" ac ymlaen ag ef. Yr oedd yn rhaid cymryd Morris Roberts fel yr oedd, a gwnai ei fab hynny. Yn y bôn, yr oedd gan y tad feddwl mawr iawn o'r mab, a buasai yn bur boeth ar neb a ddywedai air bach amdano. Yr oedd y ddau yn eu deall ei gilydd yn burion
Efallai y bydd dwy stori arall yn gymorth i adnabod Morris Roberts. Unwaith ymosododd tarw ieuanc arno, un