Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'i deirw ef ei hun. Llwyddodd i gael at yr adwy, ond yn lle dianc tynnodd bolyn oddiarni, aeth yn ôl i'r cae at y tarw a churodd ef nes oedd yr anifail yn beichio ac yn ffoi. Byth ar ôl hynny byddai'r tarw yn rhedeg i ben pellaf y cae pan welai Morris Roberts yn dyfod. Yr oedd Morris Roberts yn ddewr hyd at ddibristod. Am dano yn ei gysylltiadau crefyddol y mae'r stori arall. Pan oedd y teulu yn byw yn Nhy'n Llidiart ac yn Nhyddyn y Felin âi Morris Roberts i gapel y Gwynfryn, yr agosaf ato o ddigon. Ond parhaodd i fynd yno pan symudodd i fyw i Daltreuddyn Fawr ar lawr gwlad, er ei fod yn cerdded heibio drws capel Llanbedr i wneud hynny a'r daith yn un bur bell. Pan ddechreuodd heneiddio a llesgau teimlodd fod y daith honno yn ormod, eithr ni fynnai gydnabod hynny. Trawodd ar ffordd nodweddiadol i ddadrys y broblem. Llwyddodd i anghydweld â swyddogion eglwys y Gwynfryn ar ryw fater dibwys neu'i gilydd a bu hynny yn ddigon o esgus iddo drosglwyddo ei aelodaeth oddiyno i Lanbedr. Un felly oedd Morris Roberts.

Gwahanol iawn oedd nodweddion y fam, Catrin Roberts, merch y Wern Gron yn Uwch Artro, ac etifedd yr un traddodiad ag a geid yn ardal Ty'n Llidiart. Credaf mai hi oedd yn hanu o'r Llwydiaid. Yr oedd Morris Roberts yn chwim ac yn barablus; yr oedd hithau yn bwyllog ac yn ddistaw, yn wraig o synnwyr cyffredin cryf ac o gymeriad cyn gryfed a hynny. Magwyd hi mewn traddodiad crefyddol nodedig iawn. Yr oedd ei theulu yn aelodau ffyddlon gyda'r Bedyddwyr Albanaidd; yr oeddynt yn gyfeillgar â Dafydd Llwyd, tad Richard Lloyd, Cricieth, a thaid David Lloyd George. Pobl oeddynt wedi arfer a bod yn y lleiafrif ac wedi gorfod wynebu rhyw gymaint o erledigaeth; nid oedd arnynt ofn sefyll dros eu credo ac yr oeddynt yn barod i ddioddef dros y ffydd oedd ynddynt. Byddai Mrs. Roberts yn myned a'r plant i Gapel Uchaf Harlech o Dy'n Llidiart