Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bob Sul. Chwe milltir, mwy neu lai, oedd y pellter, ond chwe milltir ar draws y mynydd a thrwy'r cymoedd, drwy ddyffryn Artro a thros ffriddoedd moel Uwch Artro. Ar gefn y gaseg yr âi, fel y dywedir yng nghofiant R. G. Roberts, gan y Parch. Henry Rees, gyda Robert yn ei chesail a William, y mab hynaf, wrth ei hysgil. Wedi ei fagu felly nid oedd yn rhyfedd yn y byd fod ôl ei gefndir, yn ddaearyddol ac yn grefyddol, ar R. G. Roberts tra bu byw.

Yr oedd yr un peth yn wir am William, ei frawd. Amaethwr fel ei dad oedd ef a bu byw yn ardal Ardudwy ar hyd ei oes. Nodweddion y fam oedd amlycaf o lawer ynddo yntau, fel ei frawd. Gallasech feddwl, pe na buasech yn ei adnabod, mai dyn tawedog oedd. Yr oedd cyffyrddiad o yswildod ynddo a chredaf mai ei duedd naturiol oedd osgoi yn hytrach na mynd i gyfarfod cwmni. Wedi i'r teulu ddyfod i fyw i Daltreuddyn Fawr yr oedd fy nghartref, Y Faeldref, am y terfyn â'u ffarm hwythau a bûm am flynyddoedd yn cydgerdded â William Roberts i'r Dyffryn ar ddydd Sul. Yr oedd gennyf filltir dda i gapel y Methodistiaid a chanddo yntau filltir a hanner neu fwy i gapel y Bedyddwyr, ond nid oeddym yn meddwl dim o'r peth yr adeg honno. Yr oedd ef gryn lawer yn hŷn na mi, tua deunaw mlynedd, y mae'n debyg,—ond byddai yn siarad yn rhwydd ac yn gyfeillgar, ac ni ellid bod yn hir yn ei gwmni heb ganfod fod yno rhyw synnwyr a diwylliant a gallu pell uwchlaw'r cyffredin. Yr oedd yn ddarllenwr mawr a deallus ac yn ymgomiwr diddan ryfeddol. Yr oedd yntau, fel ei frawd, yn etifedd hen draddodiad Ardudwy.

Yn ystod ei flynyddoedd yng Nghaernarfon hoffai R. G. Roberts son am yr hen fywyd. Dywedodd wrthyf fel y penderfynodd William ac yntau unwaith, pan oeddynt yn blant yn Nhŷ'n Llidiart, y medrent ehedeg, a'r lle yr aethant i brofi'r peth, o bob man yn y byd, oedd uwchben un o'r