ffosydd sydd yn croesi'r weirglodd fawr yn ymyl Gwern y Cynyddion. Disgynnodd y ddau i'r ffos a methent a deall pa beth a aeth o'i le. Dro arall, yn Nhyddyn y Felin, penderfynodd y ddau frawd y gellid cael tatws cynnar iawn ond eu plannu yn gynnar ac yn ddigon dwfn, a dyna wnaed. "Gawsoch chi grop?" meddwn. "Y mae'n bosibl bod rhywun yn Awstralia wedi cael tatws cynnar", meddai "R.G." "ond chawsom ni yn Nhyddyn y Felin ddim un!" Unwaith aeth y ddau a defaid i ffair Dolgellau, gan fwriadu dal y trên olaf adref. Ond colli'r trên a wnaed a phenderfynu cerdded adref dros y Llawllech, trwy Gwm Ysgethin a thros y gefnen y tu ôl i'r Moelfre ac ar draws Cwm Nancol i Dyddyn y Felin,—llwybr sydd yn mynd trwy rai o'r mannau unicaf yng Nghymru, heb dŷ na thwlc yn agos. Yn ffodus yr oedd yn noson braf ac yr oedd y ddau yn cyrraedd yr adwy ar ben Llawllech am un o'r gloch y bore. "Yr oedd yn hollol ddistaw", meddai R. G. Roberts wrth ddweud yr hanes, "ac yn dlws ryfeddol. Ond yr oedd yn dda gen i fod William hefo mi, hefyd!" Yr oedd yn hen fore pan gyrhaeddasant Dyddyn y Felin.
Yng Nghaernarfon y deuthum i adnabod R. G. Roberts yn dda. Daeth yno yn olynydd i ŵr nodedig iawn, y Dr. Owen Davies, pregethwr mawr, arweinydd doeth, ysgolhaig a llyfrbryf. Gofynnais i Ddr. Davies unwaith faint o lyfrau oedd ganddo. "Wel", meddai, "y mae acw yn rhywle ar draws y deng mil, y rhan fwyaf ohonynt wedi eu dewis gyda graddau o ofal", a byddai Mr. Roberts yn rhoddi disgrifiad byw iawn o ofal Dr. Davies wrth brynu. Yr oedd enwogrwydd gŵr o'r fath yn gwneud y gwaith o'i ddilyn yn anodd, ond cymerodd R. G. Roberts ei le yn naturiol a thawel, a chafodd bob cynorthwy gan ei ragflaenydd. Yr oedd yn ysgolhaig pur dda, mi gredaf; athroniaeth oedd ei hoff bwnc ac yr oedd wedi darllen yn eang. Yr oedd yn bregethwr da