iawn, yn ei ddull ei hun, a hwnnw yn ddull nodweddiadol o'i gefndir. Ni bu neb erioed pellach oddiwrth ymfflamychu; ei gryfder ef oedd meddwl clir, cywirdeb tryloyw, angerddol weithiau, a medr anghyffredin i lunio brawddegau cain a seinber. Yr oedd synnwyr cyffredin cadarn yn nodweddu popeth a ddywedai ac a wnai, a deuai ambell fflach o'i hiwmor nodweddiadol i'w gyflawniadau cyhoeddus, fel i'w sgwrs bersonol. Gwanhaodd ei iechyd ar y ffordd a rhwystrwyd ef rhag gwneud popeth a wnaethai pe cawsai nerth. Efallai nad oedd mor gyffredinol boblogaidd fel pregethwr â rhai; nid dawn i dynnu sylw oedd yr eiddo ef, ond yr oedd yn ddawn i barhau ac yr oedd ei hapêl yn ddifeth at ei wrandawyr mwyaf deallus. Un peth amlwg iawn yn ei bregethu a'i holl waith fel gweinidog oedd ei allu i adnabod pobl. Magwyd ef mewn ardal a roddai gryn lawer o bwys ar beth felly.
Unwaith soniodd wrthyf am ŵr a fynnai siarad yn bur aml mewn cyrddau cyhoeddus. "Chwarae teg iddo", meddai un a oedd yn y cwmni, "fydd o byth yn hir iawn". "Na fydd", meddai Mr. Roberts yn fyfyriol, "ond mi fydda' i'n amau ei bod hi'n darfod ynghynt nag y bydd o wedi meddwl, hefyd". Ffordd dwt o ddywedyd nad oedd adnoddau'r brawd hwnnw yn ddihysbydd o dipyn.
Nid oedd yn ddyn i gymryd ei gario gan bob awel dysgeidiaeth. Pan oedd llawer o foli ac o ddilyn anfeirniadol iawn ar Lloyd George safai R. G. Roberts o'r neilltu. Meddyliai yn uchel iawn o Richard Lloyd a mynnai mai ar ôl marw ei ewythr yr aeth Lloyd George ar gyfeiliorn yn wleidyddol. "Fuasai fo ddim yn gwneud rhai o'r pethau wnaeth o tase Richard Lloyd yn fyw", meddai, ac yr oedd ef yn adnabod Richard Lloyd yn bur dda. Yr oedd yr un mor bwyllog mewn cyfeiriadau eraill. Pan fu dathlu coffa John Richard Jones, Ramoth, yn 1922, bu'n siarad cryn lawer