Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am y gŵr hwnnw â mi, a chredaf iddo ysgrifennu arno i'r Genedl ar fy nghais. Cofiaf ef yn dweud fod ganddo barch mawr i goffadwriaeth J. R. Jones; magwyd ef yn y traddodiad hwnnw. "Ond", ychwanegai, "y mae' nhw'n ei osod o'n rhy uchel wrth ddeud ei fod o'n ddyn cenedl. "Toedd o ddim". Yr oedd ei farn am y Parch. Evan Jones, Caernarfon, yn ddiddorol hefyd. Yr oedd Evan Jones yn weinidog yn y Dyffryn pan oedd "R. G." yn fachgen, cymerai ddiddordeb mawr ynddo, ac yr oedd yn ei adnabod yn bur dda. Yr oedd Anthropos ag yntau yn byw o fewn dau ddrws neu dri i'w gilydd a chai ddiddordeb dibendraw yn ei gwmni yntau. Ond nid oedd yn arwr-addolwr ar neb; mynnai ei farn ei hun ar bawb a phopeth a chafodd lawer o ddifyrrwch pan ddywedais wrtho fod Evan Jones wedi fy sicrhau unwaith mai "crancod oedd pobol y Dyffryn i gyd. Mae'n rhaid i chi argyhoeddi pob dyn ar ei ben ei hun yn yr ardal honno". Yr oedd yn rhaid gwneud hynny gydag R. G. Roberts, beth bynnag.

Yr oedd Mr. Roberts yn un o aelodau ffyddlonaf Clwb Awen a Chân pan oedd ei iechyd yn caniatáu iddo ddyfod i'r cyfarfodydd a byddai ei anerchiadau byr yno ymhlith y pethau gorau. Cofiaf am ei araith pan anrhegwyd Anthropos â hambord arian gan y gymdeithas. "Bydd y Llywydd o hyn allan", meddai, "yn edrych trwy ffenestri aur ac yn ysgrifennu ar fwrdd arian". Cymerai gryn lawer o ddiddordeb yng ngwaith y llenorion cyfoes ond rhyfeddais ddarganfod unwaith fod mwy o gydymdeimlad â'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ynddo nag a feddyliais. Tebygai ei farn i eiddo Gwili fel y'i ceir yn ei ragymadrodd i'w gyfrol o farddoniaeth. Y pregethu a apeliai ato oedd y pregethu meddylgar. Cofiaf ef yn dweud wrthyf iddo fod yn gwrando ar Dr. Miall Edwards a rhywun arall yn pregethu yn rhywle.