Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

porffor ar y ffriddoedd y naill flwyddyn ar ôl y llall. Nid oes dim hyd heddiw yn torri ar y distawrwydd dan y tal-goed yn ymyl yr hen feudy ond sisial y dail.

Dyna gefndir bywyd Robert Griffith Roberts, y pethau yna a'r bywyd syml, cymdogol, caredig oedd yno o'r naill genhedlaeth i'r llall, bywyd y gymdeithas Gymreig a greodd ei thraddodiad a'i safonau a'i dynoliaeth ei hun yng ngwe bywyd y werin. Rhan o'r gymdeithas honno oedd ef; ynddi hi yr oedd tarddiad y nerth a'r prydferthwch a oedd yn ei gymeriad yntau.