Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn weinidog yn Nyffryn Ardudwy yn amser diwygiad 1859, wedi sefyll yn bendant yn erbyn cyrddau hwyr, a phan aeth pethau yn drech nag ef byddai ef yn myned adref am wyth o'r gloch bob amser fel protest. Gwnaeth hyn ef yn amhoblogaidd iawn am gyfnod, ond nid oedd hynny yn menu fawr arno ef, ac ymhen amser daeth llawer i deimlo mai ef oedd yn iawn. I mi, wedi fy magu mewn traddodiad felly, er mai traddodiad yn unig oedd, ymddangosai rhai agweddau ar y cynhyrfiad newydd yn ddigon annymunol. Yr oeddwn yn Nyffryn Ardudwy ar y pryd, ac yno yr oedd y sôn am y goleuadau rhyfedd a oedd yn dilyn cyrddau Mrs. Jones, Islaw'r Ffordd. Yr oedd Mrs. Jones, gwraig fucheddol a thawel a oedd yn aelod ffyddlon yn eglwys y Methodistiaid yn y Dyffryn, wedi ei thanio gan y mudiad ac yn myned o gwmpas i gynnal cyfarfodydd, a dywedid fod golau rhyfedd yn yr awyr yn ei dilyn. Nid yw yn unrhyw adlewyrchiad ar Mrs. Jones i ddweud nad oes neb bellach yn credu yn y goleuadau. Nid oedd llawer yn credu ynddynt ar y pryd ac ni ddigwyddodd i mi weled neb a'u gwelodd. Yr oedd digon o bobl a oedd wedi gweled rhywun arall a oedd wedi clywed am rywun a oedd wedi eu gweled, ond yr oedd yn amhosibl cael tystiolaeth uniongyrchol. Nid oedd peth felly yn ychwanegu dim at ffydd dyn, a oedd eisioes braidd yn amheus, yn y diwygiad newydd.

Yn yr ysbryd hwnnw yr euthum i Lerpwl ac y dechreuais ddilyn cyfarfodydd Evan Roberts yno. Yr oedd fy rhagfarn yn gref yn erbyn rhai arweddau, beth bynnag, ar y mudiad, ac nid oeddwn yn hoffi llawer ar yr hyn a ddarllenaswn am ddulliau Evan Roberts ei hun. Nid oeddwn yn hoffi'r olwg gyntaf a gefais arno yntau, ychwaith, yng nghapel Princes Road yn ei gyfarfod cyntaf yn y ddinas. Tybiwn ei fod, yn ochr ei wyneb, yn debyg i'r unig ddarlun sydd gennym o Hywel Harris, ac ni bu Hywel Harris erioed yn ŵr deniadol