Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn fy marn i, er ei bod yn rhaid ar bawb gydnabod ei fawredd. Daeth newid ar fy marn am Evan Roberts, fel y ceir gweled,—newid trwyadl. Newidiodd fy syniadau am y diwygiad, hefyd, ond cymysg fu fy argraffiadau am y mudiad ei hun i'r diwedd ac hyd yn oed heddiw y mae yn anodd cyfleu darlun clir ohono i'r sawl nas gwelodd.

Erys rhai pethau yn glir iawn yn y côf. Y tyrfaoedd mawr yn Lerpwl, er enghraifft, llond y capeli mwyaf ar nosweithiau yn yr wythnos; pobl yn torri eu calonnau am eu bod yn methu myned i mewn; tyrfaoedd yn sefyll y tu allan ar heolydd y ddinas ac yn canu (cofiaf, am ryw reswm neu'i gilydd, am dyrfa fawr yn canu

O! Dduw, rho im dy hedd,
A golwg ar dy wedd,
A maddau'n awr fy meiau mawr,
Cyn elwy' i lawr i'r bedd,

ar yr hen dôn "Andalusia", a thyrfaoedd eraill, o bob llwyth ac iaith am wn i yn sefyll o gwmpas ac yn gwrando); pobl yn dylifo ar draws y caeau ym Môn ar nosweithiau o haf i gyfarfod o gwmpas y wagen; parti o Saeson wedi myned i ben melin wynt yn Sir Fôn ac yn canu un o emynau Saesneg poblogaidd y diwygiad, y "Glory song" fel y'i gelwid, yn y fan honno, er cryn syndod i Gymry'r gymdogaeth: llond cerbyd o weinidogion Protestannaidd o Ffrainc yn dyfod i Gemaes i weled Evan Roberts; cyrddau poethion yng nghapeli Arfon gefn trymder gaeaf; teithiau hir i ben draw Llŷn gydag Evan Roberts ar ddyddiau oerion a'r bobl yn rhedeg at fin y ffordd i gael golwg arno; y cynnwrf a'r twrw, y dagrau a'r llawenydd, y pethau amrwd a ddywedid yn y cyrddau, a'r pethau gwych a ddywedid ynddynt hefyd; llais Thomas Williams, Gwalchmai, un o'r tri llais gorau yng Nghymru, fel cloch ar noson dawel o fis Mehefin, a'r gwair yn tonni o