Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flaen awel ysgafn yn y caeau o'n cwmpas, yn dweud ei fod yn taeru yn wyneb uffern fod Iesu yn fyw; cyfarfod mawr yn Lerpwl ac Evan Roberts yn dweud na fedrai ddweud yr un gair am mai cywreinrwydd oedd yno ac nid dymuniad.

Cymysg iawn yw'r atgofion. Nid oes amheuaeth yn fy meddwl nad oedd yno lawer o gymysgedd yn y mudiad hefyd. Clywais rai yn gweddio yn danllyd mewn cyfarfod ar ôl cyfarfod ac yn siarad yn goeglyd ar ôl i'r cyfarfod fyned heibio. Yr oedd yn weddol hawdd gweled fod rhai yn ceisio ac yn mwynhau cyhoeddusrwydd o ryw fath trwy y mudiad. Yr oedd lle i gredu fod llawer o deimlad arwynebol iawn a chryn lawer o rywbeth na ellid ei alw yn ddim ond hysteria yn y cyfarfodydd. Ond, wedi cydnabod hynny, y mae yn rhaid hefyd i'r neb a welodd lawer ar y mudiad ddwyn tystiolaeth fod yno rywbeth arall. Gŵr pell iawn oddiwrth deimladrwydd llac a gorohian poblogaidd oedd John Rhys Evans, prifathro Ysgol Ramadeg Porthmadog, ond y peth a ddywedodd wrthyf wedi bod yn un neu ddau o gyfarfodydd y diwygiad oedd eu bod yn peri i chwi deimlo fod crefydd yn beth gwirioneddol. Ac yr oedd y dylanwad yn newid bywydau llawer, ac yn eu newid am byth. Yr oedd llawer o rai selog yn disgyn yn ôl i'r hen ddull o fyw, meddid. Yr oedd hynny, wrth gwrs, yn anorfod. Ond, cyn sicred a hynny, yr oedd y dylanwad yn barhaol yn hanes llawer, ac wrth y safon hwnnw y mae yn rhaid ei fesur.

Deuthum i deimlo hynny wrth ddilyn y cyfarfodydd. Ni chefais fy ysgubo ymaith gyda'r llif; efallai fod yr hen draddodiad y magwyd fi ynddo yn rhy gryf i hynny ddigwydd. Cydnabyddaf mai fel sylwedydd, ieuanc y mae'n wir, ond gweddol ddiduedd, yr edrychwn ar y mudiad fel y gwelais ef mewn pedwar ugain neu ragor o gyrddau Evan Roberts. Fel y dywedais, yr oeddwn yn rhagfarnllyd iawn yn erbyn y diwygiad ar y cychwyn, ond yn raddol trodd y rhagfarn yn