gydymdeimlad; nid oeddwn yn ddall i'r ochr wan, ond ffolineb yn fy marn i fuasai bod yn ddall i'r nerthoedd er daioni hefyd. Ac yr oedd Evan Roberts ei hun yn sicr yn un o'r nerthoedd hynny.
Yn raddol deuthum i'w adnabod yn dda. Buom yn lletya yn yr un mannau ac yn myned i'r cyrddau yn yr un cerbyd; buom yn cyd-gerdded ac hyd yn oed yn ceisio gwneud englyn gyda'n gilydd. Credaf ei fod ef yn gynganeddwr go lew, ond gwn yn dda nad wyf fi hyd yn oed yn gynganeddwr sâl,—a darganfu yntau hynny yn bur fuan. Po fwyaf a welwn arno dyfnhau yr oedd fy serch tuag ato a'm parch iddo. Yr oedd yn amhosibl peidio parchu ei allu meddyliol; yr oedd rhai o'i anerchiadau yn ddisglair; nid oedd ynddynt arlliw o apêl arwynebol at y teimlad, a chamgymeriad mawr ydyw tybio mai spell-binder crefyddol oedd Evan Roberts. Siaradwr tawel oedd, ei eiriau a'i ynganiad yn glir, ei ysbryd yn gariadus a'i feddwl yn drefnus. Yn aml iawn siaradai fel dyn ieuanc wrth ddynion ieuanc eraill—chwech ar hugain oed oedd ar ddechrau ei genhadaeth ym Môn—a siaradai yn naturiol bob amser. Ni chlywais dinc o'r hwyl ganddo erioed; ni byddai yn gwaeddi, ond byddai yn ofnadwy o ddifrifol ar adegau a'i natur fel pe buasai yn cael ei dirdynnu. Pethau felly a'r straen a osododd arno ei hun a dorrodd ei iechyd i lawr yn y diwedd.
Peth anffodus iddo ef oedd bod ar lawer o bobl ei ofn. Y mae'n anodd gwybod paham, ond yr oedd hynny yn wir. Un noson wlyb iawn a ninnau wedi cerdded trwy'r glaw o'r capel lle bu'r cyfarfod, gwelais ef yn eistedd yn y tŷ lle'r oeddym ein dau yn cael llety yn ei ddillad gwlyb ac yn gomedd eu tynnu. Yr oedd gŵr y tŷ yn rhyw dwtian o'i gwmpas yn ofnus ac yn meiddio awgrymu yn wan yn awr ac yn y man mai gwell fuasai iddo dynnu ei gôt fawr, ond ysgwyd ei ben heb ddweud yr un gair a wnai Evan Roberts.