Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dywedais innau wrtho am ei thynnu onide y byddai yn cael annwyd ac yn faich ac yn bryder i'w letywyr. Edrychodd pobl y tŷ arnaf fel pe buaswn yn cablu,—ond tynnodd Evan Roberts ei gôt. Y gwir, wrth gwrs, oedd ei fod wedi llwyr ddiffygio a phrin yr oedd yn clywed ymbiliadau bach, pet-rusgar ei letywr. Yr oedd mewn gwirionedd nid yn unig yn hawdd iawn ei drin ond hefyd yn ŵr caredig a bonheddig ei ysbryd; ni fynnai roddi trafferth na thramgwydd. Yn ystod ein teithiau yn y gaeaf yn sir Gaernarfon byddai yn ofalus iawn ohonof ac yn bryderus rhag i mi ddioddef oerfel na gwlybaniaeth. Yr oedd gwir dynerwch ynddo.

Nid oedd ganddo ddim o bendantrwydd ffyrnig rhyw fath o ddiwygiwr ac yr oedd ymhell o fod yn "dduwiol fach". Yr oedd yn gwbl naturiol, yn llawen yn y cwmni ac ar yr un pryd yr oedd urddas syml a hollol naturiol a'i gwnai yn amhosibl i neb fyned yn hyf arno. Ni amdiffynai ei hun pan ymosodid arno ac ni atebai feirniadaeth. Credai yn ddiysgog fod ganddo waith arbennig i'w wneud ac nid oedd dim arall yn bwysig yn ymyl hwnnw. Ni chefais le erioed i feddwl fod yr hyn a ddywedai pobl amdano ef na'r sylw a roddid iddo yn pwyso dim ar ei feddwl, ond yr oedd llwyddiant neu aflwyddiant ei genadwri yn faich llethol arno. Y mae'n anodd dweud dim i bwrpas am rai pethau a wnai, megis gwrthod siarad yn ambell gyfarfod, weithiau am ei fod yn teimlo fod yno "rwystrau" a thro arall am y credai mai chwilfrydedd yn unig a ddaeth a'r bobl yno. Torrai i lawr yn llwyr weithiau, ond dylid cofio iddo fod trwy bethau rhyfedd yn y De cyn dyfod i Lerpwl a'r Gogledd, ac mai dyn wedi bod dan straen a welsom ni yma. Tybiai rhai fod ganddo alluoedd rhyfedd i ddarllen meddwl; ni allaf ddywedyd a oedd hyn yn wir, ond gwelais ef yn gwneud pethau rhyfedd, megis dal i daeru fod rhywun mewn rhan neilltuol o'r gynulleidfa yn dymuno ei roddi ei hun i Grist ond yn