methu mentro. Gwelais hynny yn cael ei wireddu fwy nag unwaith, ond ni allaf ddywedyd a oedd taerni a sicrwydd y diwygiwr yn peidio effeithio ar feddwl rhywun yn y rhan honno o'r lle.
Credaf ei fod yn neilltuol o graff i adnabod pobl; yr oedd ei edrychiad yn dreiddgar a'i farn yn bur sicr, ac y mae'n bosibl ei fod yn gweled, o'r pulpud neu oddiar y llwyfan, rywrai yr oedd eu hwynebau yn mynegi eu teimlad iddo ef. Ni chlywais ef erioed yn honni bod ganddo unrhyw alluoedd allan o'r cyffredin, ac fel yr oedd yr amser yn treiglo yr oedd pethau a barai i bobl gredu fod galluoedd felly ganddo yn myned yn brinnach. Yng nghyrddau Lerpwl y gwelais fwyaf o'r ochr honno; ychydig iawn o bethau felly oedd yng nghyrddau Môn a llai wedyn yng nghyrddau sir Gaernarfon. Cyn cychwyn ar ei genhadaeth ym Môn bu Evan Roberts yn gorffwys am rai wythnosau yng Nghapel Curig ac yng Nghemaes, dau le hyfryd, ac yr oedd yr hin yn hyfryd hefyd. Y mae'n bosibl bod hynny wedi llacio peth ar y tyndra dir-dynnol a oedd arno yn Lerpwl.
Beth bynnag am hynny, mewn cyrddau bychan y gwelais ef ar ei orau, yn eglwys y plwy, Llanddona, ar fin y Traeth Coch ym Môn, er enghraifft, y ficer ac Evan Roberts yn siarad a Dr. John Williams, Brynsiencyn, yn darllen y llithoedd, neu yng nghapel Rhydbach, yn Llŷn, yn hwyr un noson o Ragfyr, a ninnau ar ein ffordd adref o bellter Aberdaron. Dyma hanes y cyfarfod hwnnw a ysgrifennwyd ar y pryd, ym mis Rhagfyr, 1905:
Ar ôl gorffwys drachefn cychwynasom tuag adref. Yr oedd gennym ugain milltir o daith. Wedi teithio am rai milltiroedd y mae rhywun yn dweud fod goleuni i'w weled yng nghapel Rhydbach. "A allwn ni fyned heibio?"
"Na", meddai Evan Roberts, "i mewn".