Cyn pen hir yr ydym yn cyrraedd at y capel. Y mae'r goleuni yn parhau o hyd. Arhosodd y cerbyd a gofynnwyd faint oedd hi o'r gloch. Ugain munud i ddeg. Faint o amser eto i gyrraedd Pwllheli? Awr a hanner (cerbyd a cheffylau oedd gennym). Felly i lawr a ni ac at y capel.
Erbyn edrych i mewn nid oedd yno neb ond y swyddogion a'r gweinidog, ac yr oeddynt ar ddyfod oddiyno. Ond dyna ni i mewn. Gwnaethant wynebau rhyfedd, ond ar ôl ymgom fer aeth Mr. Roberts i'r pulpud a dechreuodd ddarllen yr emyn, "Maen' bryd i ni ganu, ni gawsom y fraint". Darllenodd yn ardderchog, a thra'r oedd yn darllen agorodd drws y festri. Gwraig y tŷ capel oedd yno. Rhoddodd un edrychiad tua'r pulpud, ac yna y mae'n myned yn ôl i'r tŷ. Ond ymhen eiliad neu ddau y mae yn ei hôl, gyda'r gŵr a'r plant.
Ar ôl darllen yr emyn y mae Mr. Roberts yn syrthio ar ei liniau ac yn dechrau gweddïo—y tro cyntaf i mi ei glywed yn gweddïo mewn cyfarfod cyhoeddus. Ar y canol y mae yn distewi, ac erbyn hyn y mae rhywbeth rhyfedd i'w deimlo yn y cyfarfod. Sylwais fod pobl wedi dyfod i mewn bob yn un ac un, nes bod yno oddeutu deg ar hugain ohonom. Torrodd y naill ar ôl y llall drwodd i weddïo —gweddïau byr, llawn teimlad. Paham y mae cyfarfodydd bychan bob amser,—neu bron bob amser,—yn fwy teimladwy? Fe gofir y cyfarfod hwn gan bawb oedd yno ar hyd eu hoes.
Y mae Mr. Roberts yn y distawrwydd yn gorffen ei weddi, ac yna y mae'r cyfarfod ar ben.
Dyna'r cwbl, ond erys yr atgof yn glir a byw ym meddwl un oedd yno. Y tawelwch oedd yn gadael yr argraff.
Bu argraff ar led mai apêl at y teimlad yn unig oedd gan Evan Roberts ac nad oedd ynddo fawr o allu meddwl.