Cyfeiliornad oedd y naill dybiaeth a'r llall. Nid oedd ganddo unrhyw apêl at y teimlad fel ag a glywsom o bulpudau o dro i dro, y sôn am John a Mary bach, am ofnadwyaeth marw a phethau felly. Wrth edrych yn ôl, ac wedi troi i ryw raddau dros ddyfyniadau o anerchiadau Evan Roberts, credaf na byddaf ymhell o fy lle wrth ddweud mai apêl at y meddwl a'r gydwybod oedd ei apêl ef bron yn ddieithriad. Fel y dywedwyd, yr oedd rhai o'i anerchiadau yn wych. Nid oeddynt byth yn gywrain; yr oeddynt o fewn cyrraedd pawb ac ni byddai byth yn ymdrechu am effaith. Ond yr oedd ei gymhariaethau a'i ymresymiad yn aml yn bethau nodedig ac yn bethau ar eu pen eu hunain. Unwaith ceisiwn gyfieithu yr hyn a ddywedai i'r Saesneg i Almaenwr a oedd wedi dilyn amryw o'r cyfarfodydd, gweinidog yn un o ddinasoedd yr Almaen. "Ymha le y mae'r gŵr ifanc yma yn cael syniadau fel yna?" meddai'r gweinidog. "Ni chafodd o fawr o addysg, ac er hynny dyma fo yn siarad fel hyn".
Ni welais ef byth ar ôl y cyrddau yn sir Gaernarfon ddechrau 1906. Clywais fwy nag unwaith, wedi i'r eisteddfod fyned heibio, iddo fod yno ond ni wyddwn hynny ar y pryd ac ni chefais air ag ef. Y mae'n ddigon tebyg na buaswn wedi ei adnabod pe buaswn wedi ei weled, ac felly erys y côf amdano yn ddyn ieuanc lluniaidd, saith ar hugain oed, heb ei amharu i mi. Bu llawer o holi paham y ciliodd yn llwyr o olwg y cyhoedd ar ôl y diwygiad; ychydig iawn o ran gyhoeddus a gymerodd gyda dim ar ôl 1906 a bu hynny yn dramgwydd i rai. I ni, a fu yn agos ato yn y blynyddoedd cynhyrfus, nid oedd y peth yn rhyfedd iawn. Cofier i Florence Nightingale dreulio gweddill ei hoes o fwy na hanner can mlynedd ar ôl rhyfel y Crimea mewn neilltuaeth, rhan fawr o'r amser yn ei hystafell wely, canys ysigwyd ei hiechyd gan ei hymdrechion yn y Crimea. Y mae'n wir ei bod hi wedi