Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweithio yn egnïol am flynyddoedd o'i hystafell, ond yr oedd y gwaith hwnnw yn un y gallai ei wneud felly.

Y tebyg ydyw fod rhywbeth cyffelyb wedi digwydd i Evan Roberts. Rhoddodd straen lethol arno ei hun ym mlynyddoedd y diwygiad a daeth yr adwaith. Ac ni ellid disgwyl na dymuno i bethau aros yn hir fel yr oeddynt yn y blyn-yddoedd hynny. Y mae gwahanol farnau am y diwygiad ac am ddiwygiadau yn gyffredinol; fy amcan yn ysgrifennu yn awr ydyw dywedyd pa argraff a wnaeth gŵr amlycaf yr amser rhyfedd hwnnw ar un a welodd lawer arno. Beth bynnag yw fy syniadau am y diwygiad-cymysg ydyw y rhai hynny-nid oes gennyf ond un farn am Evan Roberts.