Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dwymo bagl ei ambarelo cyn gafael ynddo. Bu yn pregethu yn y Dyffryn unwaith a holais yr hanes wedyn. "Dyna'r dyn rhyfeddaf welais i erioed," meddai'r sawl y bu'n aros yn ei dŷ. "Pan welodd o mai llawr cerrig sydd ar y gegin acw mi ro'th ei ddau droed ar ffon y gadair yr oedd o'n eistedd arni, a thynnodd o mohonynhw odd'no ar hyd y fin nos." Gwelais ef yn cerdded ar hyd Stryd y Llyn yng Nghaernarfon ar ddiwrnod tesog; gwisgai gôt alpaca ysgafn, ond yr oedd ganddo un arall ar ei fraich rhag ofn iddi oeri yn sydyn. Yr oedd ganddo ambarelo agored, rhag yr haul, a rhes o dyllau o gwmpas corun ei het feddal "er mwyn cael awyr." Gwisgai esgidiau hoelion trwm. Canlyniad cyngor Powyson oedd y tyllau yn yr het. Cwynodd Eifionydd wrth ei hen gyfaill fod ei het yn boeth "Gofynnwch i'r crydd 'neud tyllau yni hi," meddai'r llall.

"A'r tro nesa' gwelais i o," meddai Powyson, wrth ddweud yr hanes, "'roedd o fel tase fo wedi bod yn y batl of Waterlw!" Poenodd Eifionydd lawer ynghylch ei iechyd a phoenodd gryn lawer ynghylch iechyd pobl eraill hefyd. Cynghorodd lawer arnaf i weithio ar fy sefyll wrth ddesc uchel yn lle eistedd wrth ddesc arferol. "Mi fydd yn well ar les y'ch corff a'ch meddwl chi," meddai yn bendant, a chredaf mai dyna ei arfer ef. Un tro, pan oeddwn yn cwyno, mynnai i mi roddi praw ar feddyginiaeth neilltuol, a phan wrthodais dywedodd yn bur ffrom mai yn Llanbeblig (mynwent y plwyf) y byddwn yn lled fuan. Dro arall gadawodd botel o ryw foddion wrth y drws, gan adael cenadwri iddo ef gael y peth hwnnw bron yn anffaeledig. Byddai yn yswilio wrth wneud pethau felly, a'i ffordd ef o ddangos ei fod yn swil oedd troi braidd yn chwyrn ac yn gwta. "Dyn od," meddai pawb bron wrth sôn am Eifionydd. "Dyn plagus," meddai llawer y byddai yn eu poeni am ysgrifau i'r Geninen, ac y mae'n wir ei fod yn barod i'w wneud ei hun yn fwrn ar bobl weithiau er