Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mwyn cael yr hyn y byddai arno ef ei eisiau i'w gylchgrawn. Ond ni ddylid meddwl bod Eifionydd yn ddiurddas. Nid oedd felly, o lawer.

Ychydig a wn i am ei flynyddoedd cynnar; ni byddai byth yn sôn amdano'i hun. Ceir peth o'i hanes yn ysgrif Anthropos arno yn Yr Ymwelydd Misol, Chwefror, 1912. Ganed ef yn Eifionydd, heb fod ymhell o'r Clenennau, a phrentisiwyd ef—yn naw oed—yn argraffydd gyda Robert Isaac Jones (1813-1904), fferyllydd, hynafiaethydd, golygydd ac argraffydd, yn Nhremadog. Yr oedd Robert Isaac Jones, golygydd Y Brython a'r Gestiana, yn ddolen gydiol â chyfnod Dewi Wyn, Robert ap Gwilym Ddu, Eben Fardd ac Ellis Owen o Gefn y Meysydd, ac y mae'n sicr i'r gyfathrach â gŵr o'r fath ddylanwadu ar feddwl y prentis. Nid ymhob cyfeiriad ychwaith; Eglwyswr a Thori oedd Robert Isaac Jones, ond yr oedd Eifionydd a'i fryd ar fynd i'r weinidogaeth gyda'r Annibynwyr. Wedi bod yn gweithio fel argraffydd ym Mhwllheli, y Rhyl a Machynlleth (y mae'n bosibl mai ym Machynlleth y daeth am y tro cyntaf i gysylltiad ag argraffydd ieuanc arall, Thomas Jones, "Powyson", a fu yn gyfaill iddo ar hyd ei oes) aeth i Goleg Aberhonddu. Dywed Anthropos iddo aros yno dair blynedd; cafodd wely llaith ar daith gasglu, amharodd hynny ar ei iechyd weddill ei oes ac ni fynnai'r meddygon iddo fyned ymlaen i'r weinidogaeth. Pregethai yn weddol gyson hyd y diwedd.

Trodd yn ôl at ei hen alwedigaeth, a bu am dymor yn gweithio fel cysodydd yn swyddfa Eyre & Spottiswoode yn Llundain. Cydnabyddid ei fod yn un o'r cysodwyr cyflymaf a glanaf a hynny yn y dyddiau pan wneid yr holl gysodi â'r llaw. Fel rheol, byddai'r cysodydd yn dal y stic yn ei law chwith ac yn cadw'r llaw honno yn llonydd yn ei hunfan, gan estyn y llythrennau iddi gyda'i law dde, ond byddai Eifionydd, fel y clywais, yn myned â'i law chwith ar ôl y llall ar hyd