wyneb y "case" ac yn ennill llawer mewn cyflymder trwy hynny. Bu yn swyddfa'r Genedl yng Nghaernarfon am flynyddoedd, yn yr adran olygyddol am beth amser, ac fel trafeiliwr ac ysgrifennydd y cwmni ar adegau eraill. Yr oedd, meddir, yn ddyn busnes pur dda, yn llawn gwell fel dyn busnes, ym marn Powyson, nag fel golygydd papur newydd. Gwelais nifer o'r llythyrau a ysgrifennodd pan oedd ar yr ochr fasnachol. Clywid llawer o sôn am ei lawysgrif fel un o'r pethau odiaf ynglŷn ag ef; bu hynny yn destun difyrrwch digon rhad i laweroedd ar un cyfnod. Y mae'n wir y medrai ysgrifennu yn grafagliog, eithr dengys ei lythyrau busnes y medrai ysgrifennu fel arall hefyd cyn gliried ag unrhyw ysgolfeistr.
Dengys hyn eto fod dwy ochr i Eifionydd, yr ochr od a'r ochr arall. Yr oedd ei lythyrau busnes, yn Saesneg ac yn Gymraeg, yn glir ac i'r pwrpas, ac yn sicr nid y "dyn od" y byddai rhai yn sôn amdano byth a hefyd a fuasai wedi gwneud Y Geninen yn llwyddiant am ddeugain mlynydd—yn llwyddiant mewn ystyr lenyddol a masnachol. Nid oes gennyf wybodaeth am yr ochr fasnachol, ond byddai Powyson yn dweud bod Y Geninen wedi talu yn dda i Eifionydd. Yn y cyfnod yr oeddwn yn ei adnabod nid oedd yn gwneud dim heb-law golygu'r Geninen. Dywedid nad oedd yn talu am ysgrifau; nid oes gennyf wybodaeth sicr am hynny ychwaith, ond clywais ei fod yn talu i rai, beth bynnag. Nid oedd peidio talu am ysgrifau yn beth eithriadol iawn yng Nghymru yr adeg honno.
I bob pwrpas yr oedd Y Geninen ac Eifionydd yn gyfystyr. Prin y buasai neb yn honni ei fod yn fardd, er iddo lunio llu o englynion a thoddeidiau a bod cynganeddu bron a bod yn wendid ynddo. Ni allai wrthod cyfle i'r glec. Bu'n golygu'r Werin ar un adeg, a chlywais y byddai penawdau'r