papur hwnnw yn cynganeddu yn ystod ei deyrnasiad ef. Yr unig enghraifft a gofiaf ydyw pennawd hanes llys ynadon lle cyhuddid dyn o ddwyn ieir. "Dyna ffwl yn dwyn ffowls" oedd dull Eifionydd o hysbysu'r peth. Unwaith, pan ddaeth ar ei dro i ystafell y golygyddion yn hen swyddfa'r Genedl, ymhen blynyddoedd wedi iddo adael y lle, digwyddodd i un ohonynt besychu. "Cu lenor yn cael annwyd," meddai Eifionydd, a synnodd pan atebodd y "cu lenor" ef yn yr un dull. Nid wyf yn cofio'r llinell ateb erbyn hyn.
Ni chlywais ef yn pregethu, ond clywais eraill yn dweud mai pregethwr sychlyd oedd, a dyna a fuaswn yn ei ddisgwyl. Dywedid y byddai yn gweiddi llawer wrth bregethu yn y blynyddoedd cyntaf. Ychydig a bregethai yn y blynyddoedd olaf ac ni chofiai llawer ei fod yn bregethwr, er ei fod braidd bob amser yn tueddu i wisgo fel pregethwr. Bu'n amlwg ynglŷn â Gorsedd y Beirdd am gyfnod pur hir; ef oedd Cofiadur yr Orsedd, a'r argraff ar fy meddwl i oedd nad oedd yn ceisio diwygio fawr ar drefn na dull yr Orsedd. Wedi ei farw ef, pan benodwyd Beriah Evans yn Gofiadur, y daeth llanw mawr y cyfnewidiadau a'r diwygiadau. Ond dywed Anthropos, yn yr ysgrif y cyfeiriwyd ati, mai trwy ddylanwad ac ymdrech Eifionydd yn bennaf y rhoddwyd bod i Gymdeithas yr Orsedd, ac mai ef a luniodd ei rheolau ac a drefnodd yr arholiadau am urddau ofydd, bardd a phencerdd.
Fel ceidwadwr Gorseddol y byddwn yn meddwl amdano, ond ni lwyddais erioed i wybod beth oedd ei wir farn am yr honiadau a wneid y pryd hynny ynghylch hynafiaeth yr Orsedd. Yr oedd y ddadl yn boeth yr adeg honno a dadleniadau Syr John Morris-Jones yn gymharol newydd, eithr ni chlywais Eifionydd yn traethu barn ar y naill ochr na'r llall. Dywedais wrtho unwaith fod rhywbeth a welais yn eisteddfod Aberystwyth yn debyg iawn i angladd yr Orsedd, a chefais ateb pur chwyrn, fel yr oeddwn yn disgwyl. "Mi