fydd yr Orsedd byw i'ch claddu chi, beth bynnag!" meddai. Y mae'n amheus gennyf a fuasai yn ddedwydd wedi newid yr hen drefn, neu'r hen anhrefn.
Eithr nid Gorseddwr nac englynwr na phregethwr oedd Eifionydd yn gyntaf oll ond golygydd Y Geninen, a gychwynnwyd ganddo ym mis Ionawr, 1883. Dyna oedd i Gymru gyfan. Mewn ffordd gul yn sir Frycheiniog lawer blwyddyn yn ôl cyfarfûm a gŵr wrth ei orchwyl yn trwsio'r gwrych. Aeth yn sgwrs rhyngom a gofynnodd o ba le yr oeddwn yn dyfod. "O Gaernarfon," meddwn innau. "O", meddai, "dyna lle y mae Eifionydd yn byw, yntê?" Tref Eifionydd oedd Caernarfon iddo ef ac i lawer un arall yng Nghymru'r adeg honno, y mae'n debyg. Fel golygydd yr oedd mewn gohebiaeth â rhywun ym mhob ardal bron. Ychydig o ddynion ieuainc yn dechrau cael blas ar lenydda ac wedi ennill ambell wobr am englyn neu draethawd mewn eisteddfod leol yn y cyfnod rhwng 1883 a 1914, dyweder, a fu heb gael llythyr oddi wrth Eifionydd, yn eu cyfarch fel "cymrawd llengar" ac yn gofyn iddynt dderbyn Y Geninen, sicrhau derbynwyr eraill, ac anfon cân neu englyn i'r Geninen Eisteddfodol.
Yr oedd enwadaeth yn uwch ei phen ac yn chwerwach yng Nghymru yn y blynyddoedd hynny nag ydyw heddiw. Gwyddai Eifionydd am y peryglon cystal â neb ond llywiodd ei long rhwng y creigiau a'r trobyllau hynny yn fedrus iawn. Yr oedd croeso i lueddwyr pob enwad ddweud eu barn—a'u rhagfarn—yn Y Geninen. Manteisiwyd ar y croeso yn helaeth, a dyna dudalennau diflasaf hen rifynnau'r cylchgrawn erbyn heddiw; y mae dyn ystyriol yn gwaredu wrth weled y fath wastraff ar ddoniau ac amser a phapur. Er hynny ni wyddai neb beth fyddai barn y golygydd ar faterion o'r fath; gofalu y byddai ef am gadw'r ddysgl yn wastad trwy adael i bob ochr gael Y Geninen yn faes i ffraeo arno, a chredai fod ffraeo o'r fath yn fantais i'r cylchgrawn. Nid oedd yn hawdd ei