Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddychryn, chwaith. Pan gyhoeddodd ysgrifau Siluriad yn 1885, ysgrifau chwerw, galluog a chyrhaeddgar iawn, bu cynnwrf mawr. Gwelais rai o'r llythyrau a dderbyniodd y golygydd y pryd hynny, llythyrau oddi wrth bobl led amlwg, yn bygwth peidio â derbyn Y Geninen ac yn tynnu eu haddewidion i ysgrifennu iddi yn ôl. Y mae'n amlwg fod y gwynt wedi codi'n uchel, eithr ni chynhyrfodd Eifionydd. Parhaodd i gyhoeddi'r ysgrifau ac y mae'n sicr y gwyddai yn ei galon y byddai'r storm yn fantais i'r Geninen ac iddo yntau yn y pen draw.

Credai hefyd mewn ysgrifau dienw. Bu ganddo lawer o rai felly o dro i dro, fel ysgrifau Siluriad ac eraill. Gwyddai fod cael pobl i geisio dyfalu pwy oedd yr awduron yn deffro diddordeb yn y cylchgrawn, ac yr oedd yn medru cadw cyfrinach fel y bedd. Ni thybiaf fod neb erioed wedi llwyddo i'w lithio i ollwng cath felly o'r cŵd. Gellir ymddiried bob amser mewn argraffwyr; y maent hwythau wedi hen arfer cadw cyfrinachau, a gwyddai Eifionydd hynny cystal â neb. Ond byddai yn copïo aml ysgrif nad oedd arno eisiau i neb wybod pwy oedd yr awdur â'i law ei hun cyn ei hanfon i'w chysodi, "rhag ofn i rywun diarth droi i mewn a busnesa," meddai. Pan ddeuai cyfrinach awduriaeth i'r amlwg-ac mi ddeuai yn lled aml yn y pen draw—yr awdur ei hun fyddai wedi dweud, yn ddieithriad. Yr oedd Eifionydd yn ddistaw, hyd yn oed pan fygythid cyfraith arno, fel y gwnaed ambell waith.

Cyhoeddodd amryw bethau y buasai unrhyw olygydd heddiw yn petruso yn hir iawn yn eu cylch, a rhai pethau y buasai'n well iddo beidio eu cyhoeddi. Soniais am ysgrifau Siluriad, sef y Parch. W. R. Jones (Goleufryn), a byddai yn werth troi i hen gyfrolau'r Geninen a darllen y rhai hynny unwaith eto. Newidiwyd a dofwyd tipyn ar y rhai a gyhoeddodd Alafon yn y gyfrol a olygodd o waith Goleufryn ar