Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ôl ei farw, ac y mae'n rhaid darllen yr ysgrifau yn union fel y cyhoeddwyd hwynt y tro cyntaf i sylweddoli menter Eifionydd. Nid wyf yn meddwl y buasai un golygydd yng Nghymru yn mentro eu cyhoeddi heddiw, a bu helynt fawr yr adeg honno. Yr oedd hynny cyn fy amser i ac ni welais Eifionydd yn y dymestl, ond gwelais ef mewn rhai eraill diweddarach, ac yr oedd yn amhosibl dywedyd beth oedd ei wir deimlad. Cwta iawn fyddai ei air. "Mi eith peth fel hyn drosodd, mi eith peth fel hyn drosodd," meddai unwaith, a dyna'r cwbl. Nid oedd yn gwahodd ymholiad pellach, ac nid oedd Eifionydd yn ddyn yr âi neb yn hy arno—yn y bôn. Byddai rhai o'i gyfeillion yn tynnu ei goes, ond gwyddent hwythau pa bryd i beidio.

Yr oedd yn olygydd da; y mae hen gyfrolau'r Geninen yn ddarllenadwy ac yn werthfawr heddiw, a gwnaeth wasanaeth amhrisiadwy, nid i'w genhedlaeth ei hun yn unig ond i genedlaethau i ddyfod hefyd, trwy gasglu a diogelu'r wybodaeth am bersonau a geir yn rhifynnau Gwyl Ddewi'r Geninen ac yn yr ysgrifau personol yn y rhifynnau eraill, o ran hynny. Ni fodlonai ar ofyn—ac ail a thrydydd ofyn—i bobl am ysgrifau. Byddai yn pennu'r pwnc ac yn amlinellu'r driniaeth iddynt yn aml. Clywais Gwynn Jones yn dweud y byddai yn gwneud hynny gydag ef weithiau. Byddai ei feddwl ar rifyn nesaf Y Geninen o hyd. Pan ddeuai ar ei dro i swyddfa'r Genedl gofynnai am gael gweled pentwr o bapurau Cymraeg. Bûm yn gwylio'r oruchwyliaeth lawer gwaith. Byddai ganddo siswrn yn ei boced. Gwibiai trwy'r papurau yn gyflym ac yn ddistaw; torri darn yma ac acw, gan adael "gweddillion llenyddol" ar ei ôl, fel y byddai Robert Hughes, hen aelod o staff y Genedl, yn dweud. (Digrifwch na byddai Robert Hughes byth yn blino arno oedd hyn). Byddai'r darnau yn myned i boced ei drowsus, a byddai ganddo bentwr o englynion, enwau buddugwyr mewn eisteddfodau, a phroflenni yn