Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chyfnewidiadau. Onid oedd rhai o wŷr ieuainc y ganrif honno yn ysgrifennu i'r Geninen, a busnes golygydd oedd troi pob dŵr gwerth ei droi o'r ffrydiau newydd at felin ei gyhoeddiad. Dyna, y mae'n debyg oedd ei ymresymiad. Ar bethau fel hyn, fel ar lawer o bethau eraill, anodd oedd gwybod i sicrwydd beth oedd barn bersonol Eifionydd, er i chwi deimlo yn bur sicr fod ganddo farn.

"Y mae Eifionydd ei hun yn ŵr anrhydeddus," medd Anthropos yn yr ysgrif y cyfeiriwyd ati, "ac yn casáu pob culni a rhagfarn sydd yn anurddo llenyddiaeth ein gwlad." "Mi fydda i'n meddwl weithiau i fod o'n barod i aberthu peth hyd yn oed ar ei hunan-barch er mwyn Y Geninen," meddai'r Parch. William Hobley wrthyf wrth sôn amdano unwaith. Y mae gwir yn y ddwy farn, er na ddylid tybio iddo wneud dim dianrhydeddus fel golygydd. Yr oedd, fel y dywedais, yn barod i'w wneud ei hun yn blagus i rai er mwyn cael ganddynt ysgrifennu i'r Geninen. Y syniad cwbl anghywir am Eifionydd, a syniad a goleddid gan lawer, oedd mai dyn od a dim arall oedd, testun llinellau megis "gŵr nerfus o Gaernarfon," a gŵr y dywedid straeon digrif am ei lawysgrif a phethau felly. Rhan arwynebol o'i bersonoliaeth oedd y pethau od, er eu bod yn amlwg iawn ynddo. Y gwir am Eifionydd oedd ei fod yn ŵr pur alluog ac yn ŵr o ddynoliaeth gadarn. Nid aeth neb erioed yn hy arno yr eildro, ac yr oedd llawer o dynerwch a charedigrwydd yn ei natur, er bod ei ddull cwta yn eu cuddio rhag llawer. Dyn unig oedd ar lawer ystyr, ac yn y diwedd ymadawodd yn hollol fel ef ei hun, yn ddistŵr a heb fawr o siarad.