BERIAH GWYNFE EVANS 1848-1927
YR oedd un o gyfarfodydd Evan Roberts yn sir Fôn, yn 1905, yn tynnu at y terfyn. Nos Sadwrn oedd hi, nos Sadwrn yn yr haf, ac yr oedd tyrfa fawr wedi dyfod at ei gilydd i'r maes lle cynhelid y cyfarfod. Yn eu plith yr oedd amryw o ohebwyr y papurau newyddion, Cymraeg a Saesneg, rhai ohonom wedi dilyn cyfarfodydd y diwygiad yn Lerpwl a Môn, ac ambell un, fel Gwilym Hughes, a gynrychiolai'r South Wales Daily News, wedi bod mewn amryw o'r cyfarfodydd yn y De hefyd.
Trodd un o'r gohebwyr ataf, dyn byr, yn gwisgo côt lwyd laes, côt "dau fotwm tu ôl" fel y gelwid hi mewn rhai ardaloedd, a het feddal, ddu. Yr oedd ganddo gadwyn aur ar draws ei frest a chaib fechan o aur yn crogi wrthi. Yr oeddwn wedi sylwi ei fod braidd yn hŷn na'r rhan fwyaf ohonom ni ohebwyr, a hefyd ei fod yn sgrifennu llawer iawn. Yr oedd Gwilym Hughes yn weithiwr eithriadol o galed bob amser, ond yr oedd y gŵr hwn yn gweithio llawn cyn galeted ag yntau. Sylwais hefyd ei fod yn sgrifennu'r cwbl gyda phensel blwm a honno wedi ei gwisgo a chôt o rwber trwchus nes ei gwneud gymaint deirgwaith o ffyrf. Ychydig a siaradai â neb ond yr oedd yn craffu ar y gynulleidfa ac yn rhoddi argraff arnoch ei fod yn gweled ac yn sylwi ar bob peth.
Y diwrnod hwnnw trodd ataf; yr oeddwn yn eistedd yn ei ymyl, ac os wyf yn cofio yn iawn, yr oedd gennym fwrdd o'n blaen. "Beriah Evans ydw i," meddai, mewn llais dipyn yn galed, "ac 'rwy'n deall y byddwch chi yma yfory. Y mae'n rhaid i mi fynd adref i Gaernarfon yn awr. A wnewch chi anfon adroddiadau yn fy lle i, ac mi rannwn yr ysbail?"