Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd yn ddigon da gan fachgen yn dechrau ar ei yrfa ym myd y papurau newydd gael ysbail; heblaw hynny, yr oedd yn dipyn o anrhydedd cael bod yn ddirprwy i Beriah Evans, newyddiadurwr mwyaf adnabyddus Cymru ar y pryd, y mae'n debyg. Cytunais ar unwaith, ond nid oeddwn yn gwybod y pryd hynny â pha beth yr oeddwn yn cytuno. Dechreuodd Beriah Evans ddweud wrthyf, a gwelais er fy mraw ei fod yn anfon adroddiadau gwahanol i bedwar papur, adroddiadau byr, y mae'n wir, ond gwahanol serch hynny. Nid peth hawdd iawn ydyw gwneud adroddiadau gwahanol, diddorol a chywir, am yr un peth, ac yr oedd yn rhaid i'r cwbl fod yn barod i'w rhoddi yn llaw bachgen y teligraff fel y byddai'r cyfarfod yn gorffen. Heblaw hynny, yr oedd yn rhaid arnaf wneud adroddiad hefyd i'm papur fy hun.

Y ffordd orau i feithrin bachgen yng ngwaith papur newydd ydyw ei daflu i'w ganol, i nofio neu suddo. Rywfodd neu'i gilydd, deuthum trwy'r Sul hwnnw. Gwnaed y gwahanol adroddiadau ac yr oedd pob un yn ei bapur ei hun drannoeth, er mawr foddhad i mi. Daeth Beriah Evans yn ei ôl ddydd Llun, os wyf yn cofio'n iawn, ond nid dyna'r tro olaf i mi weithredu ar ei ran ar y Sul, gan "rannu'r ysbail" yn gyfartal rhyngom bob tro. Yr oedd yn brofiad da ac yn sylfaen cyfeillgarwch â Beriah Evans a barhaodd hyd ddiwedd ei oes.

Ni allech fod bum munud yn ei gwmni heb ddarganfod mai gŵr o'r Deheudir ydoedd; yr oedd hynny yn amlwg ar ei leferydd ac yn amlycach na hynny yn ei agwedd. A chyn pen ychydig byddech yn gwybod hefyd mai Annibynnwr oedd; yr oedd yn ddiacon yn eglwys Pendref, Caernarfon, a galwad Pendref arno a barai ei fod yn gadael cyrddau Evan Roberts dros y Sul. Yr oedd yn Annibynnwr o'r Annibynwyr. Lliwiai hynny ei farn ar lawer o bethau a allai