Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymddangos i rai o honom yn ddigon diberthynas a'r pwnc canolog.

Yn Nant y Glo, yn Sir Fynwy, y ganed Beriah Evans, yn 1848. Dechreuodd ei yrfa fel athro ysgol, a bu yn brifathro ysgol yng Ngwynfe, Sir Gaerfyrddin. Oddi yno y cymerodd ei enw canol. Yng nghyfnod Sir Gaerfyrddin y dechreuodd ddyfod yn adnabyddus; yr oedd ynni diderfyn a mynd diorffwys ynddo bob amser, hyd yn oed wedi iddo fyned yn hen ŵr ac ar waethaf iechyd digon symol, ac y mae'n rhaid ei fod yn ffrwydrol bron pan oedd yn ddyn ieuanc. Trodd yr ynni hwnnw i lawer cyfeiriad yn 1880 sefydlodd a golygodd Cyfaill yr Aelwyd, cylchgrawn misol a fu'n bur boblogaidd am gyfnod, ac y mae ôl egni a menter ac ysbryd arloesi y golygydd yn amlwg ar y cyfrolau a fu dan ei ofal.

Ar un cyfnod llyncodd syniadau am wella llythyraeth yr iaith Gymraeg, defnyddio v yn lle f, a phethau felly, gan wneud ei gylchgrawn yn anodd ac yn annifyr ei ddarllen, i mi, beth bynnag. Yr oedd darlun ohono ef ei hun uwchben colofn y gohebwyr; a barnu oddi wrth hwnnw, yr oedd y tebygrwydd i newyddiadurwr enwog arall, W. T. Stead, a oedd ynddo yn ei flynyddoedd diwethaf, yno yn gynnar hefyd. Yr oedd llun pen y ddau yn debyg, gwisgent farf o'r un ffurf, ac yr oedd yr olwg bell, freuddwydiol braidd oedd yn llygaid Beriah yn y lluniau cynnar i'w weled hefyd yn llygaid Stead. Ac yr oedd llawer o bethau eraill yn debyg, yn eu meddwl yn ogystal ag yn eu hymddangosiad.

Nid dyma'r lle i olrhain holl weithredoedd Beriah yn y cyfnod yma; ysgrifennodd storïau a dramâu, ac ym myd y ddrama yn enwedig bu yn gryn lawer o arloesydd. Yn eisteddfod Llanberis yn 1877 cynigiwyd gwobr am ddrama Gymraeg ar Owain Glyn Dŵr, "yn null Shakespeare," yr oedd y pwyllgor yn uchelgeisiol,—a Beriah Evans a orfu. Cyhoeddwyd y ddrama, ac er nad oes ynddi lawer o bethau sydd yn peri i ddyn feddwl am Shakespeare, y mae'n