debyg, cystal â dim a gafwyd ar lun drama yn Gymraeg cyn hynny, er dyddiau Twm o'r Nant. Erbyn hyn yr oedd Beriah yn lled adnabyddus, cymerodd ran amlwg ynglŷn â'r mudiad o blaid dysgu'r iaith Gymraeg yn yr ysgolion, ac yr oedd yn gohebu i rai o'r papurau newyddion ers tro.
Y diwedd fu rhoddi'r gorau i'r ysgol a mynd i Gaerdydd ar staff y South Wales Daily News, a newyddiadurwr a fu Beriah Evans o hynny hyd y diwedd. Dywedodd rhywun na all gweinidog byth ymddihatru oddi wrth ddull ei swydd, i ba waith bynnag arall yr a; "Once a Parc, always a Parc," oedd dull y brawd hwnnw, Sais, o osod y gwirionedd, os gwirionedd hefyd. Beth bynnag am weinidogion, credaf fod y peth yn wir am athrawon; erys dull yr ysgolfeistr gyda llawer ohonynt ar hyd eu hoes beth bynnag a fônt, ac yr oedd hynny yn hollol wir am Beriah. Hyd yn oed pe na buasech yn gwybod dim o'i hanes, buasech yn deall yn fuan iawn mai â hen ysgolfeistr yr oeddych yn siarad, nid am fod dim yn annymunol yn ei ddull ond am fod y pendantrwydd a'r dinc braidd yn awdurdodol yn y llais yn hawdd eu hadnabod. Y mae'r peth i'w weled yn eglur iawn yn ei "Gyfarwyddiadau" ynglŷn â'i ddrama ysgrythurol, "Esther," er enghraifft.
Daeth i fod yn olygydd cynorthwyol y South Wales Daily News yn lled gynnar. Yr oedd erbyn hyn yn weddol adnabyddus mewn rhai cylchoedd yng Nghymru, yn ddigon adnabyddus, beth bynnag, i Lloyd George feddwl amdano pan oedd eisiau golygydd a rheolwr i bapurau'r Genedl Gymreig yng Nghaernarfon. Cychwynnwyd y papurau hynny yn 1877 a bu mwy nag un tro ar fyd arnynt cyn ffurfio cwmni newydd yn 1891, cwmni yr oedd amryw o aelodau Seneddol Rhyddfrydol Cymru yn hyrwyddo ei lansio, a Lloyd George yn ôl pob tebyg yn brif symbylydd iddo. Gwyddai Lloyd George yn dda beth oedd gwerth y wasg, yn enwedig gwasg