LLEW G. WILLIAMS, 1883-1926.
DAETH dydd o brysur bwyso ar lawer o bethau yng Nghymru gyda rhyfel 1914-18. I ddeall pa mor brysur oedd y pwyso hwnnw y mae gofyn i ddyn feddu gwybodaeth neu brofiad lled drwyadl o'r byd Cymreig fel yr oedd cyn y rhyfel. A chymryd Cymry yn gyffredinol, gellir dywedyd nad oedd rhyfel na milwriaeth yn eu holl feddylfryd hwynt; yr oedd milwyr yn brin yn yr ardaloedd gwledig, yr oedd y fyddin yn ddieithr i'r rhan fwyaf, ac yr oedd y mwyafrif, y mae'n debyg, yn credu fod cynnydd yn sicr, fod rhyfel yn myned yn beth amhosibl, a phe'r arhosent i feddwl am yr agwedd honno, y mae'n debyg y dywedent fod crefydd Crist yn condemnio rhyfel yn hollol ddiamwys. Profodd Norman Angell fod rhyfel yn beth colledus i'r gorchfygwr yn ogystal ag i'r gorchfygedig, ond camddeallodd llawer ohonom ei ddysgeidiaeth, gan feddwl mai dweud a wnaeth fod rhyfel yn amhosibl, peth nas dywedodd o gwbl.
Ni allem ddychmygu am ryfel ar raddfa fawr. Gwelsom ryfel De Affrica, ond yr oedd honno ymhell iawn oddiwrthym a phrin yr oedd yn cyffwrdd ein bywyd beunyddiol. Yn fy ardal enedigol yr oedd un gŵr yn filwr, wedi ymuno yn wirfoddol, wrth gwrs; ac wedi gwasanaethu ei amser—saith mlynedd, mi gredaf—yn y fyddin. Pan ddaeth rhyfel De Affrica, yr oedd yn was ffarm drachefn ac yn reservist, gan dybio yn sicr, y mae'n debyg, ei fod wedi darfod â'r fyddin am byth.
Ond daeth yr alwad a bu yn rhaid ufuddhau. Ffarweliwyd yn ddagreuol ag ef yn y capel a buwyd yn pryderu llawer yn ei gylch. Dilynid hanes y rhyfel gan gofio o hyd fod dyn o'r ardal yn rhywle ar y veldt ac, yn ôl pob tebyg, yn cymryd rhan yn y brwydro. Daeth adref yng nghyflawnder yr amser a