Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yng nghanol yr etholaeth yr oedd newydd gael ei ethol i'w chynrychioli, iddo ef; yr oedd ers tro yn ysgrifennu yn achlysurol i'r North Wales Express ac i'r Genedl, ac yn awr, ar drothwy ei yrfa Seneddol, penderfynodd gael at ei alwad bapurau y gallai ddibynnu ar eu cefnogaeth bob amser.

Ni wn pa faint o ddiddordeb ariannol oedd ganddo yn y fenter; y mae'n anodd meddwl fod ganddo lawer, canys dechrau yr oedd ar ei yrfa fel cyfreithiwr a gwleidydd, a gellir casglu oddiwrth y pethau a ddigwyddodd ymhellach ymlaen nad oedd gan y cwmni newydd lawn digon o gyfalaf i gyfarfod â chynlluniau eang Beriah Evans a'r Cyfarwyddwyr. Ond gwyddai Lloyd George yn dda beth oedd gwerth golygydd profiadol ac egnïol; bu amryw yn golygu'r Genedl cyn hyn, yn eu plith W. J. Parry, Bethesda, gŵr pur dalentog ar lawer ystyr, ond gŵr nad oedd ganddo unrhyw brofiad newyddiadurol na dawn lenyddol. Yr oedd ar Lloyd George eisiau'r golygydd gorau y medrai ei gael; edrychodd o'i gwmpas; efallai iddo ymgynghori â Tom Ellis, y bu iddo beth cysylltiad â'r South Wales Daily News, a'r diwedd fu gwahodd Beriah Evans i ddyfod i Gaernarfon fel golygydd a rheolwr holl fusnes y swyddfa. Dechreuodd Beriah ar ei waith yng Nghaernarfon yn mis Ionawr, 1892. Ymadawodd o swyddfa'r Genedl ddiwedd 1894.

Tair blynedd-tymor byr, ond tymor a adawodd ei ôl ar y swyddfa yn hir ac ar fywyd Cymru i raddau hefyd. Ymhen mwy nag un mlynedd ar ddeg ar ôl teyrnasiad Beriah Evans yr oeddwn yn dechrau ar fy ngwaith yn hen swyddfa'r Genedl, y swyddfa y dywedodd Powyson amdani pan aeth ef yno gyntaf tuag 1879 fod "chwain fel crocodeils yn cyfarth arnoch chi pan fyddech chi'n mynd trwy'r drws." Dychymyg rhamantus Powyson oedd yn gyfrifol am y darlun hwnnw; ni welais i gymaint â chwilen ddu na llygoden yno, er bod yno ddigon o lwch a chasgliad blynyddoedd o bapurau a