Gwnaeth y golygydd y papurau yn rym gwleidyddol am ysbaid; bu ei ysgrifau, "Dafydd Dafis," yn lled boblogaidd, ond clywais fod gwleidyddion ac aelodau Seneddol yn cael mwy o flas arnynt na gwerin gwlad; tueddai Beriah, efallai, i feddwl fod y werin yn cymryd mwy o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth a gwleidyddion nag a wnâi; ymhen blynyddoedd arferai un o berchenogion Y Genedl daeru fod cael pris yr ymenyn ym marchnad Caernarfon yn gywir yn y papur yn bwysicach o lawer na'r ysgrif arweiniol orau. Y mae'n amlwg oddi wrth y llythyrau a ysgrifennai ei fod yn gweithio yn galed iawn yn y blynyddoedd hynny, ac y mae'n amhosibl peidio â pharchu dyn sydd yn gweithio'n galed. Ond yr oedd, mewn gwirionedd, mewn safle amhosibl, a daeth hynny i'r amlwg yn bur fuan.
A siarad yn gyffredinol, camgymeriad ydyw disgwyl i ddyn gyfuno'r ddwy swydd o olygydd papur newydd a rheolwr yr ochr fasnachol i'r papur. Y mae angen cymwysterau gwahanol at y naill waith a'r llall, ac nid bob amser y ceir y cyfuniad hwnnw yn yr un dyn. Nid wyf yn meddwl ei fod yn Beriah Evans. Yr oedd yn olygydd da; yr oedd yn rheolwr busnes egnïol iawn, ond nid oedd cystal ar yr ochr honno yn ôl yr hanes a glywais, ac yr oedd ganddo gyfrifoldeb masnachol mawr yn y swyddfa, gofal am yr hysbysiadau, na all yr un papur newydd fyw hebddynt, am y cylchrediad, am y gwaith argraffu a'r holl gant a mil o fanylion y mae yn rhaid eu gwylio mewn swyddfa os am gadw y tu clytaf i'r clawdd. Y gŵr a fu yn rheoli yn swyddfa'r Genedl o flaen Beriah Evans oedd David Edwards, a fu wedi hynny yn rheolwr y Daily News yn Llundain. Nid oedd David Edwards yn meddu dawn Beriah Evans fel newyddiadurwr, ond yr oedd yn ddyn busnes da ac yn gwylio pob ceiniog a werid gyda llygad barcud. Yr oedd traddodiad yn swyddfa'r Genedl yn fy amser i mai "It must be done, notwithstanding the cost,"